English icon English

Cronfa newydd gwerth £1m i hybu twristiaeth Cymru ym mhob tywydd

New £1m fund to boost Welsh tourism come rain or shine

Bydd cronfa newydd gwerth £1 miliwn yn helpu i sicrhau bod atyniadau twristiaeth ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr beth bynnag fo'r tywydd.

Mae 'Cronfa Gwrthsefyll Tywydd Blwyddyn Croeso' yn cael ei lansio wrth i Croeso Cymru ddathlu'r croeso unigryw y gellir ei gael yng Nghymru sy'n golygu bod llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro.

Bydd y gronfa yn darparu grantiau rhwng £5,000 a £20,000 i fusnesau cymwys, gan eu galluogi i weithredu mesurau gwrthsefyll tywydd.

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i Gymru, gan roi £3.8bn i economi Cymru bob blwyddyn, diolch i'r hyn sydd gan y wlad i'w gynnig i ymwelwyr sy'n gallu bod yn sicr o groeso Cymreig gwych boed law neu hindda.

Ond dangosodd data diweddar gan Croeso Cymru fod tywydd gwael yn cael ei nodi gan 55% o fusnesau fel y rheswm dros lai o ymwelwyr yn haf 2024 – hyd yn oed cyn pwysau costau byw.

Yn yr un modd, nododd arolwg Domestic Sentiment Tracker dywydd y DU fel y prif ffactor sy'n atal pobl rhag cymryd gwyliau domestig.

Gallai'r grantiau felly gwmpasu amrywiaeth o fesurau fel canopïau, draenio cynaliadwy, ardaloedd eistedd wedi'u gorchuddio, llochesi i ymwelwyr neu lwybrau gwell ac arwynebau meysydd parcio.

Wrth gyhoeddi'r gronfa, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Dwristiaeth, Rebecca Evans:

"Yn naturiol, mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig ym maes twristiaeth a gall ein hymwelwyr gael sicrwydd o groeso cynnes bob amser.

"Ond wrth i'r tywydd, sydd wedi creu ein tirweddau trawiadol trwy gydol hanes, ddod yn fwy a mwy anodd i'w ragweld, mae wedi cael ei nodi fel y ffactor mwyaf sy'n effeithio ar nifer yr ymwelwyr i atyniadau Cymru.

"Gall tywydd gwael atal ymwelwyr rhag mwynhau, effeithio ar y profiad ac mae ganddo'r posibilrwydd o atal ymweliadau yn y lle cyntaf.

"Dyna pam rydyn ni wedi gwrando ar bryderon pobl sy'n gweithio yn y sector atyniadau twristiaeth ac wedi lansio'r gronfa hon, gan eu helpu i baratoi ar gyfer patrymau tywydd mwymwy amrywiol."

Mae strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru, Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25' yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â tywydd tymhorol drwy hyrwyddo Cymru fel gwlad y gallwch ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:

  • Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o £9m a chyllideb gyfalaf o £6m
  • Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50m
  • Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5m

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Bydd pob ymwelydd, o ble bynnag y maent yn dod, yn darganfod cyrchfan sy'n darparu profiad gwych ac rydym bob amser yn helpu i adeiladu ar a gwella'r cynnig yng Nghymru.

"Bydd y grantiau hyn yn helpu ein hatyniadau twristiaeth i ddod yn fwy gwydn, ymestyn eu tymor a gwella profiad ymwelwyr, gan gefnogi'r busnesau ac economi ehangach Cymru."