Cronfa newydd i ddarparu Pengliniau Prosthetig a reolir gan Ficrobrosesydd
New fund to provide Microprocessor Controlled Prosthetic Knees
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cronfa newydd werth £700,000 i ddarparu pengliniau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd i gleifion cymwys. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, nid yw’r pengliniau hyn ond ar gael i gyn-filwyr sydd wedi cael eu hanafu wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog.
Mae’r math hwn o ben-glin yn gwella iechyd tymor hir ac ansawdd bywyd pobl, drwy wella eu gallu i symud a’i gwneud yn haws iddynt fyw’n annibynnol. Mae pen-gliniau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd yn cynnwys technoleg sy’n cael ei defnyddio gan bobl sydd wedi colli coes mewn modd sy’n cynnwys y pen-glin. Mae’r pengliniau prosthetig hyn yn defnyddio’r dechnoleg gyfrifiadurol i ddarparu mwy o sefydlogrwydd a diogelwch wrth gerdded, ac mae’n ei gwneud yn haws i bobl fynd i fyny ac i lawr llethrau a grisiau, ac i gerdded ar draws tir anwastad.
Bydd y gronfa ar gael o 1 Ebrill, i bobl gymwys, drwy wasanaethau adsefydlu’r GIG sy’n darparu prostheses ar gyfer y rheini sydd eu hangen, ac sy’n gweithio o dair Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam. Gall y rheini sy’n gymwys drafod y posibiliadau yn eu hasesiad nesaf gyda’r sawl sy’n gyfrifol am ddarparu eu prosthesis.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r rheini sy’n gymwys i gael pen-glin prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd. Mae’r math hwn o ben-glin yn gwella ansawdd bywyd yr unigolyn a’i deulu, drwy helpu’r claf i fyw mor annibynnol â phosibl. Mae’n bleser gallu cyhoeddi cronfa y bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael mynediad ati o 1 Ebrill."
Dywedodd Ian Massey, Arweinydd Clinigol ym maes prostheteg yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Ysbyty Rookwood: Rydym wrth ein boddau y bydd Cymru hefyd yn gallu darparu pen-gliniau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd i’r rheini nad ydynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Gall y dyfeisiau hyn wella ansawdd bywyd yn sylweddol i lawer o’n cleifion yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno a datblygu’r gwasanaeth hwn wrth i bobl sy’n dod i’n canolfannau gael y cyfle i fanteisio ar y dyfeisiau uwch-dechnoleg hyn."