English icon English
holding hands-2

Cwm Taf Morgannwg – adroddiad mamolaeth diweddaraf

Cwm Taf Morgannwg – latest maternity report

Cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg heddiw [dydd Llun 25].

Dyma’r adroddiad cyntaf o Raglen Adolygu Clinigol y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth, sy’n edrych ar y gofal a roddwyd gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng nghyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae’r Rhaglen yn ymdrin ag adolygiad o oddeutu 160 beichiogrwydd rhwng 01 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018. Mae’r rhain wedi’u rhannu yn dri chategori:

  • Morbidrwydd a marwolaeth mamau – gan gynnwys mamau a oedd yn rhaid eu derbyn i’r uned gofal dwys;
  • Babanod a oedd yn farwanedig;
  • Babanod a fu farw neu a oedd angen gofal arbenigol yn syth ar ôl eu geni;

Dyma’r cyntaf o dri adroddiad thematig a fydd yn cael eu cyfuno mewn adroddiad trosfwaol. Mae’r achosion hyn yn cynnwys mamau a oedd angen gofal brys ac roedd angen derbyn y rhan fwyaf ohonynt i’r uned gofal dwys.

Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu’r meysydd pryder a nodwyd yn yr adolygiad annibynnol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn pryderon a ddaeth i’r amlwg yn ystod 2018.

Mae’r Panel wedi cadarnhau er nad oes unrhyw beth newydd wedi dod i’r amlwg, y cafwyd gwell dealltwriaeth o rai pethau ac mae’n cadarnhau bod y pryderon ar y pryd yn rhai gwirioneddol iawn.

Yn 27 o’r 28 achos, nododd y timau adolygu clinigol ffactorau a gyfrannodd at ansawdd y gofal a roddwyd. Yn 19 o’r achosion hyn ystyriwyd bod y ffactorau yn rhai mawr – sy’n golygu y byddai’n rhesymol i ddisgwyl y byddai rheolaeth wahanol wedi arwain at ganlyniad gwahanol. Roedd y ffactorau hyn yn gysylltiedig â diagnosis a/neu adnabod statws risg uchel y fenyw, y driniaeth a roddwyd ac arweinyddiaeth glinigol yn y rhan fwyaf o achosion.

Roedd cyfathrebu gwael gyda menywod neu rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn thema gyffredin. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r straeon a’r materion a rannwyd gan y menywod dan sylw.

Gan siarad am yr adroddiad diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Ni all unrhyw beth newid profiadau’r menywod a’r teuluoedd hyn. Mae’n ddrwg iawn gen i fod hyn wedi digwydd. Rwy’n gobeithio bod yr adolygiadau annibynnol yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt a’u bod wedi cael atebion i’w cwestiynau unigol.

“Mae’r Panel annibynnol wedi cydnabod fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn agored, yn dryloyw ac yn dosturiol yn y modd y mae wedi ymateb a sicrhau bod cymorth ar gael i’r menywod a’r teuluoedd a effeithiwyd.

“Mae’r Panel wedi pwysleisio mai eithriadau oedd yr achosion hyn. Er hynny, mae’r adolygiad yn un anodd ei ddarllen. 

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflawnwyd gwelliannau sylweddol a gwnaed cynnydd yn erbyn y 70 o argymhellion – yn awr mae proses drylwyr iawn ar waith sy’n ystyried yr holl ganfyddiadau o’r adolygiadau clinigol unigol hyn i sicrhau eu bod wedi cael eu cynnwys, neu y byddant yn cael eu cynnwys, yn y cynlluniau gwella mamolaeth a newyddenedigol.

“Menywod a theuluoedd sydd wrth galon yr adolygiad parhaus hwn. Heddiw, rwy’n meddwl am bawb sydd wedi’u heffeithio gan yr adroddiad hwn a’r bobl sy’n aros am ganlyniad eu hadolygiadau.”

Mae’r Panel wedi argymell bod y bwrdd iechyd yn cyhoeddi ymateb i’r canfyddiadau hyn, a fydd ar gael heddiw [dydd Llun 25]. Roedd hefyd yn argymell bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol i sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei rannu ar draws Cymru.