Cwmni gwasanaethau TG sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial i ehangu a chreu swyddi
AI focused-IT services company to expand and create jobs
Mae cwmni gwasanaethau TG ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n harneisio pŵer deallusrwydd artiffisial (AI) yn ehangu ac yn creu swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Bydd ITCS yn sefydlu pencadlys newydd yng Nghymru, gan ddyblu ei gapasiti presennol wrth iddo fynd ar drywydd cyfleoedd twf uchelgeisiol.
Bydd cyllid Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru gwerth £350,000 yn diogelu swyddi yn y busnes ac yn creu 60 o swyddi eraill erbyn 2028.
Wedi'i sefydlu yn 2004, mae ITCS yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu sefydliadau i sbarduno cynhyrchiant trwy awtomeiddio tasgau arferol, gwella prosesau gwneud penderfyniadau, a chyflymu trawsnewidiad digidol.
Bydd ei bencadlys newydd wedi'i leoli yn Ystad Ddiwydiannol Waterton a bydd yn cynnwys gofod swyddfa uwch-dechnoleg, a chanolfan weithrediadau seiberddiogelwch.
Bydd hefyd yn cynnwys cyfleuster hyfforddi o'r radd flaenaf, ac mae'r cwmni'n bwriadu gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog myfyrwyr i ymwneud â maes TG a Seiberddiogelwch. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn cynnig cyfleoedd TG i oedolion sy'n dymuno uwchsgilio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae cefnogi swyddi yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd y prosiect hwn yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel mewn rhan o Gymru sydd â chlwstwr TG sy'n datblygu'n gyflym.
“Bydd y buddsoddiad yn y pencadlys newydd hwn yn darparu'r cyfleusterau sydd eu hangen ar ITCS i ffynnu, wrth iddo fynd ar drywydd arloesi, datblygu sgiliau a thwf hirdymor.”
Dywedodd Brian Stokes, Rheolwr Gyfarwyddwr ITCS:
“Dyma gyfnod cyffrous i ITCS wrth i ni gymryd y cam nesaf o ran ein twf. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad, rydym wedi helpu sefydliadau i drawsnewid y ffordd maen nhw'n gweithio, gan sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cynhyrchiant ac arbedion cost sylweddol. Bydd ein pencadlys newydd yn caniatáu inni ehangu ein capasiti a darparu hyd yn oed mwy o werth i gleientiaid newydd a phresennol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chymorth, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y buddsoddiad hwn yn bosibl. Rydym nawr yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'n cyfleuster arloesol newydd i arddangos a thrafod sut y gall ITCS wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau wrth iddynt gofleidio deallusrwydd artiffisial a dyfodol technoleg.”