Cwmni meddalwedd yng Nghaerdydd yn creu 100 o swyddi newydd
100 new jobs at Cardiff software company
Mae cwmni meddalwedd newydd Aforza yn creu 100 o swyddi, diolch i £900,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Hyb technoleg y Tramshed yng Nghaerdydd yw cartref presennol y cwmni, lle mae ganddo labordy Ymchwil a Datblygu a chanolfan helpu cwsmeriaid.
Mae Aforza yn arbenigo mewn darparu atebion cyflawn i gwmnïau nwyddau traul i’w helpu i gynllunio, hyrwyddo a gwerthu’u cynnyrch yn fwy effeithiol.
Bydd y £900,000 o gymorth o Gronfa Dyfodol Economi Llywodraeth Cymru’n allweddol i gynlluniau’r cwmni i dyfu, ac i greu swyddi newydd o ansawdd uchel.
Mae’r cwmni’n derbyn nawdd hefyd gan fuddsoddwyr allweddol yn Silicon Valley.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Mae’n wych iawn clywed bod Aforza yn creu 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd, yn enwedig o ystyried yr effaith ofnadwy y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar yr economi.
“Mae’n amlwg bod y cwmni ar gynnydd ac mae ei gynlluniau ar gyfer tyfu yn ei roi mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol.
“Mae gan y sector technoleg yng Nghymru rôl gwbl hanfodol yn adferiad ein heconomi wrth inni ddygymod ag effeithiau’r pandemig a rhaid rhoi lle canolog i fusnesau fel Aforza wrth inni gamu tua’r dyfodol.
“Rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu rhoi cymorth ariannol pwysig i’r cwmni a fydd yn hanfodol iddo i’w helpu i wireddu ei nodau. Mae twf y cwmni yn brawf hefyd o allu’r gweithlu sydd gennym yma yng Nghymru.”
Dywedodd Pennaeth Aforza, Dominic Dinardo: “Roedd y grant o Gronfa Dyfodol yr Economi gan Lywodraeth Cymru i Aforza yn gwbl allweddol i’n penderfyniad i leoli ein gwaith ymchwil a datblygu a gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghaerdydd, gan greu swyddi newydd yn y rhanbarth, nawr ac yn y dyfodol.
“Yn y misoedd diwethaf yn unig, mewn cyfnod hynod anodd, mae’r grant wedi rhoi’r hyder i ni gynyddu maint ein tîm yng Nghaerdydd o fwy na thraean. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru’n bersonol am ei chymorth a’i harloesedd am wneud i hyn ddigwydd.”