Cwmni o Gymru yn cynyddu nifer y dyfeisiau achub bywyd y mae’n eu cynhyrchu er mwyn helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Welsh firm ramps up production of life-saving devices to support NHS
Mae Flexicare Medical Limited yn Aberpennar wedi cynyddu nifer y systemau anadlu drwy beiriant, y lleithyddion a’r dadebrwyr y mae’n eu cynhyrchu er mwyn helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Mae’r cwmni yn gweithio 24 awr y dydd yn ei brif gyfleuster gweithgynhyrchu er mwyn diwallu’r galw presennol. Mae rhagor o staff gweithgynhyrchu wedi’u hychwanegu at resi cydosod, mae nifer o batrymau shifftiau wedi cael eu cyflwyno, ac mae’r cwmni wedi comisiynu peiriannau newydd.
Yn ogystal â hyn, mae Flexicare eisoes wedi mynd â pheiriannau anadlu o’i labordy profi i ysbytai yn ne Cymru er mwyn helpu’r cleifion sydd eu hangen.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae Flexicare yn cymryd mesurau hanfodol er mwyn ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
“Bydd ei arbenigedd yn helpu i achub bywydau yma yng Nghymru ac ym mhedwar ban y byd. Hoffwn ddiolch i bawb yn y cwmni am eu hymdrechion ac rwy’n annog rhagor o gwmnïau i wneud yr un peth. Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod gan y GIG y cyfarpar y mae arno’i angen i ymateb i’r pandemig hwn.”
Dywedodd Hash Poormand, rheolwr gyfarwyddwr Flexicare: "Mae ein tîm arbennig yma yn Flexicare yn mynd yr ail filltir i wneud popeth a allwn i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ledled y byd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rwy’n siarad ar ran holl dîm Flexicare wrth ddiolch o galon i'r gweithwyr hanfodol sy’n gweithio mor galed i’n cadw ni gyd yn ddiogel ac yn iach.
“Rydym wedi teimlo’n wylaidd yn wastad wrth weld yr hyn y mae gweithwyr clinigol yn ei wneud bob dydd i achub bywydau cleifion, ond rydym yn teimlo’n fwy gwylaidd nag erioed ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i’w cefnogi orau y gallwn, fel yr ydym wedi’i wneud am y 30 mlynedd ddiwethaf.”