English icon English

Cwmni o'r Swistir yn buddsoddi mewn ehangu gweithrediadau ar safle yng Nghasnewydd

Swiss company invests in expansion at Newport site

Mae cwmni o'r Swistir ar fin ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd fel rhan o gytundeb gyda chwmni technoleg blaenllaw yn y sector awyrofod ac amddiffyn.

Mae Cicor Group wedi ymrwymo i gytundeb cyflenwi strategol gyda chwmni technoleg blaenllaw sy'n weithgar yn y diwydiant awyrofod ac amddiffyn byd-eang ac wedi dewis trosglwyddo rhan sylweddol o'r gwaith cynhyrchu i'w safle yn Nhŷ-du, Casnewydd.

Mae'r contract pum mlynedd cychwynnol yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth Cicor ym marchnad diwydiant awyrofod ac amddiffyn Ewrop ac mae disgwyl i drosiant Cicor gynyddu miliynau o bunnoedd, swm a allai fod yn y miliynau ffigurau dwbl canolig.

Bydd yn cynyddu cyfran y gwaith awyrofod ar safle Casnewydd o 5 y cant o'r allbwn i 25 y cant, gan greu nifer o swyddi i ddechrau, gyda'r potensial am fwy yn y dyfodol.

Cyfarfu Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, â Cicor yn nigwyddiad DSEI UK a gynhaliwyd yn Llundain, ym mis Medi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Ehangu Cicor yng Nghasnewydd yw'r union fath o fewnfuddsoddiad yr ydym yn edrych i'w ddenu yn ein Uwchgynhadledd Buddsoddi ryngwladol yn ICC Cymru yr wythnos nesaf.

"Mae Cymru'n genedl ddeinamig sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda busnesau i greu'r amodau a'r cyfle cywir ar gyfer twf, buddsoddi a chreu swyddi.

"Rydym yn ymfalchïo mewn galluoedd o'r radd flaenaf yn y sectorau amddiffyn ac awyrofod a bydd ehangu Cicor yn darparu swyddi pellach â chyflog da i weithwyr proffesiynol medrus yn y diwydiant uwch-dechnoleg hwn."

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Cicor, Lee Harrhy: 

"Mae'r buddsoddiad hwn yn dod â thechnoleg newydd a swyddi newydd, gan gynyddu'r maes cynhyrchu awyrofod ac amddiffyn yma yng Nghasnewydd. Hefyd mae'n cryfhau sefyllfa Cicor fel un o'r prif weithgynhyrchwyr yn y sector awyrofod ac amddiffyn yn Ewrop."