English icon English

Cwmni plastigion o Gymru sy’n gweithio gyda brandiau byd-eang bellach yn gwneud peiriannau anadlu a phecynnau profi am COVID-19

Welsh plastics company which works with global brands now making ventilators and Covid19 testing kits

Mae cwmni o Gymru sy’n rhoi’r lliw mewn plastigion ar gyfer rhai o frandiau mwyaf y byd wedi arallgyfeirio i wneud darnau peiriannau anadlu ac anadlyddion ar gyfer y GIG, a phecynnau profi am y coronafeirws.

Mae Performance Masterbatches Ltd ym Mlaenau Gwent, sy’n gwneud y lliw ar gyfer caeadau Nescafe Gold Blend, yn ogystal â gwaith ar gyfer Nissan, Jaguar Land Rover a Honda, wedi buddsoddi mewn prosesau newydd i’w helpu i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws, gyda thuag 20% o’i holl linell gynhyrchu bellach wedi cael ei neilltuo i gefnogi’r GIG.

Ar ei ddechrau roedd y cwmni, sydd ym Mrynmawr, yn gwneud cynhyrchion ar gyfer pecynnu bwyd; ond mae bellach yn gwneud lliwiau a chyfansoddion i’w defnyddio mewn amrediad eang o blastigion, gan gynnwys ar gyfer y sector modurol. Mae’n disgwyl cynyddu’r cynhyrchion mae’n eu gwneud sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws dros y chwarter nesaf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae’r coronafeirws yn argyfwng iechyd y cyhoedd cenedlaethol sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.

“Mae’r gwaith o wneud peiriannau anadlu a phecynnau profi yn hanfodol. Mae Performances Masterbatches yn ymateb i’n galwad am gymorth.

“Hoffwn i ddiolch i bawb yn y cwmni am y cyfraniad sylweddol maen nhw’n ei wneud, gan ddefnyddio eu harbenigedd a’u profiad.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn ni’n achub bywydau.”

Dywedodd Lawrence Watts, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni:

“Mae Performance Masterbatches Ltd yn falch o’r ffaith rydyn ni’n gallu helpu. Mae ein cyfansoddion lliw yn cael eu defnyddio i wneud darnau peiriannau anadlu a phecynnau profi. Mae’r galw yn cynyddu bob dydd.

“Rhaid dweud diolch yn fawr iawn i’n staff ni, sy’n gweithio mor galed yn ystod y cyfnod ansicr hwn."