Cwmni yn Rhydaman yn ehangu’i waith gweithgynhyrchu yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru
Ammanford firm expands manufacturing capacity with Welsh Government support
Mae cwmni LSN Diffusion, sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac sy’n gweithgynhyrchu powdrau arbenigol i’w defnyddio yn y sector peirianneg, yn ehangu ei waith ac yn creu swyddi newydd yn sgil cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni sy’n cyflogi dros 100 aelod o staff yn ei safle yng Nghilyrychen, Llandybie, yn allforio ei bowdrau nicel, cobalt a haearn i gwsmeriaid ar draws y byd, gan gynnwys grŵp o fusnesau o’r radd flaenaf o bob ban byd.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £290,000 o’i Chronfa Dyfodol yr Economi er mwyn helpu i ddiogelu at y dyfodol waith yn LSN Diffusion. Mae’r cwmni’n buddsoddi £3 miliwn mewn cyfleusterau newydd a phrosesau o’r radd flaenaf.
Bydd gwaith gweithgynhyrchu’r cwmni yn ehangu’n sylweddol er mwyn diwallu’r galw cynyddol am ei gynnyrch, gan ddiogelu’r swyddi presennol a chreu 20 o swyddi newydd.
Dywedodd Philip Allnatt, Rheolwr-Gyfarwyddwr LSN Diffusion: “Mae datblygiad LSN Diffusion wedi deillio o fuddsoddiad parhaus mewn gwaith ymchwil a datblygu, a hynny ar y cyd â busnesau a phrifysgolion sy’n arbenigo mewn uwch-dechnoleg. Mae’r cynnydd mewn galw yn golygu bod angen buddsoddi mewn cyfarpar gweithgynhyrchu a chyfarpar cysylltiedig ac mae hyn yn creu cyfleoedd gwaith heb eu hail. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r cymorth gan Lywodraeth Cymru.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Mae’n wych clywed bod LSN Diffusion yn buddsoddi yn ei ddyfodol yn Rhydaman ar adeg eithriadol o heriol.
“Mae’r cwmni yn gyflogwr pwysig iawn yn yr ardal ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig y cymorth allweddol hwn iddynt a fydd yn cefnogi eu cynlluniau i ehangu, creu cyfleoedd gwaith o safon uchel a diogelu swyddi eraill.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn tystio i’n hyder yn yr ardal leol a’r economi ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cwmni yn mynd o nerth i nerth, gan barhau i anelu’n uchel.”