Cwmnïau gemau o Gymru yn ceisio codi lefel yn y Tokyo Game Show

Welsh games companies looking to level up at Tokyo Game Show

Mae naw cwmni gemau o Gymru ar fin manteisio i'r eithaf pan fyddant yn arddangos yn y Tokyo Game Show fel rhan o ymweliad cyntaf Cymru Greadigol â'r arddangosfa fyd-eang.

Gan ymuno â thîm Cymru Greadigol ar stondin arddangos Cymru Wales, bydd y naw cwmni o Gymru yn creu cysylltiadau newydd, yn cwrdd ag arweinwyr y diwydiant ac yn cynyddu gwelededd rhyngwladol Cymru fel cenedl o bobl greadigol a thalentog.

Nawr yn ei 30ain blwyddyn, Tokyo Game Show yw un o ddigwyddiadau mwyaf y byd i'r diwydiant, gyda chewri byd-eang fel Nintendo, Microsoft, Sega, Konami ac EA i gyd yn mynychu'n rheolaidd.

Mae'r sector gemau fideo yn flaenoriaeth i Cymru Greadigol, sydd wedi buddsoddi mwy na £5.7 miliwn mewn dros 100 o fusnesau gemau ers 2020.

Ymhlith y cwmnïau gemau o Gymru sy'n mynd i'r  Tokyo Game Show mae Worldviper Studios, stiwdio gemau annibynnol yng Nghaerdydd. Fe'i sefydlwyd yn dilyn y gêm lwyddiannus o'r enw 'Warsim: The Realm of Aslona', oedd â statws cwlt yn ei genre. Mae Worldviper Studios bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu ei gêm flaenllaw Slumbox, efelychiad o fywyd cyberpunk.

Dywedodd Huw Millward, Prif Swyddog Gweithredol Worldviper Studios:

"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y cyfle hwn i dorri i mewn i un o farchnadoedd gemau mwyaf a goaru y byd. Roeddwn bob amser yn edrych i fyny ar y diwydiant gemau yn Japan yn wrth dyfu i fyny, felly rydyn ni'n edrych ymlaen at fod yn rhan ohono."

Mae ymweliad Cymru Greadigol â’r Tokyo Game Shoe yn cael ei gynnal ochr yn ochr â thaith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gryfhau cysylltiadau economaidd a chreu cyfleoedd allforio newydd yn Japan, lle roedd cyfanswm allforion nwyddau o Gymru oddeutu £280 miliwn yn 2025. 

Mae'r ddirprwyaeth i'r Farchnad Allforio yn cynnwys 16 o fusnesau o amrywiol sectorau ac mae'r rhaglen yn cynnwys derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo, a gynhelir gan Lysgennad Prydain i Japan, ymhlith llu o weithgareddau eraill.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

"Mae Japan yn un o bartneriaid rhyngwladol pwysicaf Cymru, gyda chysylltiadau cryf a chynyddol ym maes masnach, buddsoddi a diwylliant. Mae'r daith fasnach hon yn gyfle gwerthfawr i gryfhau'r perthnasoedd hynny, arddangos arbenigedd Cymru a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau dyfu eu hallforion yn y farchnad allweddol hon.

"Dyma'r tro cyntaf i Cymru Greadigol ymweld â'r Tokyo Game Show, ac mae rhai o’n stiwdios datblygu gemau gorau un yn mynd gyda hwy. Mae hwn yn gyfle mawr iddyn nhw i gyd arddangos eu prosiectau cyfredol, eu llwyddiannau a dangos eu potensial ar gyfer llwyddiant byd-eang."