English icon English

Cydnabod gweithwyr GIG Cymru a gofal cymdeithasol yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

NHS Wales and Social care employees recognised in Queen’s Birthday Honours

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi llongyfarch gweithwyr GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol sydd wedi’u cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

O ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, cafodd Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eu gohirio tan yr hydref. Mae 26 o unigolion o GIG Cymru, y sector gofal cymdeithasol a’r trydydd sector wedi cael eu gwobrwyo.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Rwy’n falch iawn bod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines wedi cydnabod pobl o’n GIG, y sector gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Hoffwn longyfarch y rhai hynny a anrhydeddwyd. Yn ddi-os, mae’r pandemig coronafeirws wedi dangos pa mor ddyledus ydym ni i bob un o’n gweithwyr ymroddedig yn y GIG a’r sector gofal. Mae eu hymroddiad wedi ein helpu ni fel cenedl i fynd i’r afael â’r pandemig, a chynnal gwasanaethau hanfodol eraill.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Hoffwn ddymuno’n dda i’r bobl a wobrwywyd yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Rydym wedi bod angen staff ein GIG a’r sector gofal eleni yn fwy nag erioed. Maent wedi rhoi gobaith inni mewn blwyddyn heriol na welwyd ei thebyg o’r blaen. Hoffwn ddiolch o waelod calon i bob un ohonynt.”