English icon English
AdobeStock 91143294 (1)-2

Cydweithio wrth wraidd cynllun ariannu newydd i ffermwyr.

Collaboration at the heart of new funding scheme for farmers.

Mae cam datblygu'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) newydd ar agor ar gyfer ceisiadau tan 27 Medi.

Bydd yr INRS yn galluogi ffermwyr ac eraill i weithio gyda'i gilydd i wella ein hadnoddau naturiol a darparu buddion i fusnesau fferm a busnesau gwledig.

Mae gweminar wedi ei threfnu gan Cyswllt Ffermio ar 11 Medi i roi cyfle i ffermwyr ddysgu mwy am y cynllun a holi cwestiynau. 

Er bod y cynllun ar wahân i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio elfen gydweithredol y cynllun yn ystod y cyfnod interim hwn.  

Mae'r cynllun yn rhan o gam paratoadol o weithgareddau a allai arwain at brosiectau cydweithredol yn barod i gymryd rhan yn Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y cynllun yn darparu cyllid ar gyfer cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur ar y raddfa briodol, gan dargedu camau gweithredu ac ymyriadau i wella a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu i ganolbwyntio ar weithredu ar y cyd - gan alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i wneud rhywbeth y maen nhw'n ei wneud yn dda iawn - sef cydweithio i ddarparu atebion arloesol.  Bydd y prosiectau hyn yn gwella ein hadnoddau naturiol mewn ffordd sy'n darparu buddion i fusnesau fferm a busnesau gwledig, cymunedau gwledig, a manteision cymdeithasol ehangach.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth."

Gallai hyn gynnwys gwella ein priddoedd llawn carbon fel mawndiroedd, creu a rheoli coetiroedd, cyflwyno dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a diogelu tirweddau a nodweddion hanesyddol.  Neu, cymryd camau i wella cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol, gwella cysylltedd, graddfa, gallu i addasu neu amrywiaeth cynefinoedd lled-naturiol a’n nodweddion naturiol, gan sicrhau gwydnwch ecosystemau.   Gallai prosiectau hefyd gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig drwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma https://www.llyw.cymru/cynllun-adnoddau-naturiol-integredig-llyfryn-rheolau-html