Cyfarfod cyntaf y panel arbenigol sy'n cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd

First meeting of expert panel advising on new economic development agency for Wales

  • Y panel cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd yn cwrdd am y tro cyntaf. 
  • Disgwylir i'r panel ddod ynghyd dros gyfnod o tua chwe mis cyn cynhyrchu ei adroddiad terfynol a'i argymhellion.  
  • Gofynnir i fusnesau yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill gyfrannu at ddyluniad yr asiantaeth. 

Cyfarfu'r panel cynghori arbenigol annibynnol sy'n cynghori'r llywodraeth ar ddyluniad yr asiantaeth datblygu economaidd newydd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ddoe.

Cyfarfu'r panel o 11 o arbenigwyr busnes blaenllaw, o dan arweiniad y Cadeirydd Jonathan Lewis, â'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price. 

Yn y cyfarfod agoriadol, sefydlwyd dealltwriaeth o'r dirwedd economaidd bresennol a materion sy'n dod i'r amlwg, a dechreuwyd trafod blaenoriaethau ar gyfer gwaith y panel yn y dyfodol. Dechreuwyd hefyd ar y broses o gysylltu â sefydliadau sydd ag aelodau, megis CBI, FSB a Make UK, a thrafodwyd sut y byddent yn ymgysylltu â busnesau eraill ledled Cymru i gasglu tystiolaeth a syniadau. 

Disgwylir i'r panel ddod ynghyd dros gyfnod o tua chwe mis cyn cynhyrchu ei adroddiad terfynol a'i argymhellion.  

Bydd argymhellion y panel yn elfen ganolog o raglen Llywodraeth Cymru i gyflawni'r asiantaeth newydd. 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: 

"Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio'r ffordd y mae gwaith datblygu economaidd yn cael ei gyflawni yma yng Nghymru, gyda sefydliad modern wedi'i gynllunio yn unol ag anghenion busnesau heddiw ac economi Cymru yn y dyfodol. 

"Yn ystod cyfarfod cyntaf y panel heddiw, trafodwyd yr angen i ddefnyddio profiad busnesau a sefydliadau ledled Cymru i ddeall yr heriau a'r rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu, ac i nodi lle y gall asiantaeth newydd ychwanegu gwerth gwirioneddol, datgloi buddsoddiad a chefnogi twf economaidd cryfach. 

"Rwy' am weld asiantaeth sy'n meithrin cryfder cynaliadwy yn economi Cymru wrth i ni fynd ar drywydd ein targed uchelgeisiol o haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd." 

Dywedodd Cadeirydd y Panel, Jonathan Lewis: 

"Mae'r cyfle busnes sydd ar gael i ni yng Nghymru yn sylweddol. Fel panel annibynnol byddwn yn cynghori'r llywodraeth ar beth ddylai'r asiantaeth ganolbwyntio arno. 

"Dechreuodd y gwaith hwnnw ar garlam heddiw, gyda thrafodaethau rhwng uwch-swyddogion busnes profiadol, sydd oll wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd yn wirfoddol i sicrhau bod llais busnes cryf yn rhan o'r broses hon. 

"Mae'n bwysig bod lleisiau y tu hwnt i'r panel hefyd yn helpu i lunio dyluniad yr asiantaeth, a byddwn yn ymgynghori â phobl fusnes, undebau, endidau presennol sy'n cefnogi busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Cymru. Rwy'n benderfynol y bydd hon yn broses gynhwysol. 

"Edrychaf ymlaen at weld i ba gyfeiriad y gall y dystiolaeth, arbenigedd aelodau'r panel, a safbwyntiau busnesau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ein harwain ni."