Cyfle i ddiolch i wirfoddolwyr sy’n helpu cymunedau Cymru
Time to say thanks to the volunteers supporting communities across Wales
Ar ddechrau Wythnos y Gwirfoddolwyr, mae Llywodraeth Cymru am ddiolch i’r miloedd o wirfoddolwyr o bob oed, gan gynnwys pobl ifanc, sy’n gweithio mor galed i helpu cymunedau ym mhob cwr o Gymru.
Mae’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru mewn ffyrdd dramatig, ond mae gwirfoddolwyr wedi camu i’r adwy i gludo bwyd a meddyginiaeth i gymdogion, cefnogi’r GIG a dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a chymdogion drwy sgwrsio i gadw cwmni a chadarnhau bod popeth yn iawn gan gadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd.
Daw hyn ar adeg pan fo cymdogion, aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr yn bwysicach nag erioed ar gyfer helpu’r rhai mewn angen.
Gydag ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion ar gau, dyma gyfle gwych i bobl ifanc a’r rhai sy’n gadael yr ysgol roi hwb i’w lles eu hunain – a lles pobl yn eu cymuned, drwy wirfoddoli. Mae helpu eraill yn ffordd ardderchog o godi hunan barch a chadw’n brysur.
I nodi Wythnos y Gwirfoddolwyr, siaradodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gyda rhai o’r gwirfoddolwyr ifanc hyn er mwyn diolch iddynt yn bersonol am eu gwaith.
Dywedodd Jane Hutt: “Rwy’ am ddiolch i bob un o’r gwirfoddolwyr anhygoel sydd wedi bod yn cefnogi eu cymunedau. Mae haelioni pobl Cymru, hen ac ifanc, wedi fy rhyfeddu a’m hysbrydoli.
“Mae bron i 18,000 o wirfoddolwyr wedi cynnig eu gwasanaethau ers 1 Mawrth, gyda bron i 3000 ohonynt yn iau na 25 oed. Os nad ydych chi wedi ystyried gwirfoddoli eto, edrychwch ar Gwirfoddoli Cymru a chynigiwch eich gwasanaethau yn y ffordd orau i chi.
“I bobl ifanc, dyma amser perffaith i helpu eraill gan ennill profiad eich hun a chael rhywbeth ychwanegol i’w roi ar eich CV. Mae pawb yn gwybod bod helpu eraill yn ffordd dda o roi hwb i’ch lles eich hun – a does dim amheuaeth bod miloedd o wirfoddolwyr yn hybu lles pobl eraill.
“Bydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr ifanc yn fwy nag erioed pan ddaw’r cyfnod ffyrlo i ben. Bydd nifer o wahanol rolau ar eich cyfer, o gasglu a dosbarthu bwyd a meddyginiaeth i gynnig gwasanaeth fel cyfaill ar-lein neu dros y ffôn. Os nad oes unrhyw un wedi cysylltu eto, byddwch yn amyneddgar. Mae eich angen chi, a’ch gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi.
“Bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn gweld manteision caredigrwydd gwirfoddolwyr wrth i amser fynd yn ei flaen, a phawb yn rhannu’r un ymrwymiad i gefnogi cymunedau ffyniannus lle mae unigolion a grwpiau yn cydweithio i gefnogi’r rhai agored i niwed. Gobeithio y bydd modd ffurfio cyfeillgarwch a phartneriaethau newydd, gyda phobl hen ac ifanc yn helpu ei gilydd ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
“Prif neges yr wythnos, yn haeddiannol felly, yw ei bod yn bryd dweud diolch, a dyna fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy gydol yr wythnos. Rydym yn annog ein holl bartneriaid ar draws Cymru i wneud yr un fath. Mae’n bwysicach nag erioed i ni gydnabod cyfraniad ein gwirfoddolwyr, yn ystod yr argyfwng hwn ac ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob un o’n gwirfoddolwyr. Rydym yn gofyn i chi barhau i gynnig eich gwasanaethau yn y ffordd sydd orau i chi – ond gwnewch yn siŵr eich bod chi ac eraill yn ddiogel.”
Dywedodd Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
“Heddiw rydyn ni’n dechrau ar ymgyrch wythnos o hyd i gydnabod a diolch i’r miloedd o bobl sydd wedi rhoi eu hamser i gefnogi eu cymunedau. Bob blwyddyn, mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle pwysig i ni ddiolch i’r bobl anhygoel sy’n helpu eraill bob dydd.
“Ers dechrau’r pandemig Covid-19 mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi gweld llawer iawn mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu eu cymdogion ac eraill sy’n agored i niwed yn sgil yr argyfwng. Felly eleni, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig cydnabod eu gwaith a diolch i wirfoddolwyr gwych Cymru am bopeth maen nhw’n ei wneud.”