Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau i greu Cymru ddiwastraff
Have your say on plans to create a zero waste Wales
Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar ei chynlluniau i wneud Cymru y brif wlad ailgylchu yn y byd, a'n helpu ni i ddod yn economi gylchol, mewn cyfres o sesiynau ymgynghori ar 'Fwy nag Ailgylchu'
Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud am yr hyn y mae angen ei wneud i leihau ymhellach faint o blastig untro rydyn ni'n ei ddefnyddio, i helpu ac addysgu cymunedau a busnesau i wneud gwahaniaeth ac i weithio gyda'n gilydd i roi blaenoriaeth i gynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu.
Mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn disgrifio sut y gallwn ni sicrhau economi gylchol yng Nghymru ac yn nodi'r camau nesaf ar gyfer dileu gwastraff a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Amcan economi gylchol yw defnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd, dileu gwastraff a gwneud defnyddio adnoddau'n effeithlon yn rhan o ddiwylliant Cymru. I helpu i gyflawni'r amcanion hyn, bydd y strategaeth yn disgrifio cynigion ar gyfer edrych yn fanylach ar sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio, annog pobl i ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu mwy o gynnyrch a deunyddiau, a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a chymdeithasol y bydd economi gylchol yn eu cynnig.
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau er mwyn gwrando ar farn y cyhoedd ynghylch sut y gall Cymru barhau i arwain y byd ym maes ailgylchu a symud tua at Gymru ddiwastraff erbyn 2050.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blethyn:
"Mae Cymru yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ond hoffen ni fynd ymhellach a sicrhau economi gylchol yng Nghymru – lle mae gwastraff, plastig a deunyddiau pecynnu yn cael eu lleihau ac mae pethau'n cael eu defnyddio cynifer o weithiau ag y bo modd.
"Gwnaeth Cymru arwain y ffordd wrth gyflwyno'r tâl am fagiau siopa untro, a hoffen ni glywed eich barn ar beth arall gallwn ni ei wneud i helpu i gyrraedd ein nod i fod yn wlad ddiwastraff.
"Dw i'n gwybod bod cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cymryd camau, a hoffen ni weld cymaint o bobl â phosibl ar draws Sir y Fflint yn dod i'r digwyddiadau hyn. Dyma gyfle nid yn unig i ddweud eich dweud ond hefyd i chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn un o arweinwyr yr agenda amgylcheddol."
Dewch i rannu eich syniadau ddydd Iau 12 Mawrth rhwng 12.00pm a 4.30pm yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug. Gallwch gofrestru eich lle yn y digwyddiad drwy fynd i
DIWEDD