Cyfle i ddweud eich dweud ar gynlluniau i roi hwb i gymorth iaith a lleferydd
Have your say on plans to boost speech and language support
Mae cynlluniau wedi'u cyhoeddi heddiw i ymestyn rhaglen lwyddiannus Siarad Gyda Fi i gefnogi plant hŷn 5 i 11 oed gyda'u sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu .
Ers ei lansio yn 2020, mae Siarad Gyda Fi wedi helpu i sicrhau bod babanod a phlant bach dan bump oed yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar raglen estynedig, sy'n rhedeg o 2026 i 2030, a fydd yn cefnogi plant cynradd hefyd.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod un o bob pump o blant a phobl ifanc yn cael trafferth gyda'u lleferydd, eu hiaith a'u cyfathrebu, a bod gan fwy na 10% anghenion hirdymor sy'n creu rhwystrau i ddysgu mewn bywyd bob dydd.
Mae pum amcan allweddol i'r cynllun estynedig: codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut i gefnogi babanod a phlant gyda'u lleferydd; helpu rhieni ac ymarferwyr i sylweddoli'n gynnar bod yna anghenion cyfathrebu; sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn; uwchsgilio'r gweithlu; a sicrhau bod cymorth ataliol ar gael i'r un graddau i bawb ledled Cymru.
Ymhlith y camau newydd byddai ymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol ar gyfer teuluoedd plant 5 i 11 oed, adolygiad o raglenni cymorth i blant oedran ysgol, a chwrs hyfforddi ar-lein am ddim i bobl sy'n gweithio gyda phlant hŷn.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
"Mae pob plentyn yn haeddu gallu cyfathrebu'n hyderus a mynegi eu hunain. Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu cryf yn sylfaenol i broses ddysgu, lles a chyfleoedd plant i'r dyfodol.
"Mae Siarad Gyda Fi eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n plant ieuengaf, a dw i wrth fy modd ein bod bellach yn ymgynghori ar ymestyn y gefnogaeth hanfodol hon i blant cynradd. Dw i'n annog pawb sydd â diddordeb yn natblygiad plant i rannu eu barn."