Cyflwyno dirwyon llymach i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded yng Nghymru
Tougher fines introduced to prevent unlicensed music events in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhagor o bwerau i'r heddlu i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded rhag cael eu cynnal yng Nghymru, fel rhan o'r ymdrechion i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Cyhoeddwyd hynny heddiw gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Yn dilyn trafodaethau â’r heddlu a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, mae’r Gweinidogion yn diwygio rheoliadau’r coronafeirws er mwyn gwahardd trefnu digwyddiad cerddorol i fwy na 30 o bobl, heb drwydded. Digwyddiadau yw’r rhain nad ydynt wedi’u trwyddedu na’u hawdurdodi fel arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r gwaharddiad hwn gellir ei gosbi drwy euogfarn a dirwy diderfyn neu, fel dewis arall yn lle euogfarn, cosb benodedig o £10,000.
Mae hyn yn rhoi pwerau i’r heddlu yng Nghymru sy’n gyfwerth, yn fras, â’r pwerau sy’n cael eu cyflwyno yr un pryd yn Lloegr.
Bydd yr heddlu’n gweithredu mewn modd cymesur gan ddefnyddio’r egwyddorion Ymgysylltu, Esbonio, Annog a Gorfodi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae ymgynnull yn anghyfreithlon yn peryglu iechyd pobl yn ddiangen. Mae'r newidiadau i'r rheoliadau yr ydyn ni’n eu cyflwyno yn rhoi pwerau newydd i'r heddlu i atal y digwyddiadau hyn rhag cael eu cynnal.
"Mae'r ddirwy ddiderfyn neu’r gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu'r effaith ddifrifol y gallai’r rhain ei chael o ran iechyd y cyhoedd.
"Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae cyfrifoldeb arnom ni oll yn barhaus i ddiogelu Cymru.”
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’r rheolau ynglŷn ag ymgynnull yng Nghymru yn ddiweddar.
Ni ddylai pobl ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 30 o bobl yn yr awyr agored na chwrdd o dan do â phobl nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu haelwyd estynedig
Felly mae’n drosedd gwneud hynny heb esgus rhesymol, sef yr amgylchiadau cyfyngedig a nodir yn y rheoliadau.
Daw’r newidiadau yn y rheoliadau i rym yfory (dydd Gwener 28 Awst 2020).