Cyflwyno profion torfol yng Nghwm Cynon Isaf
Mass testing to be rolled out in Lower Cynon Valley
Bydd pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghwm Cynon Isaf yn cael cynnig prawf coronafeirws. Dyma fydd yr ail ardal yng Nghymru i gyflwyno profion torfol, gan ddilyn Merthyr Tudful
Bydd yr holl breswylwyr a gweithwyr heb symptomau yn cael cynnig profion rheolaidd ar gyfer y coronafeirws rhwng dydd Sadwrn 5 Rhagfyr a dydd Sul 20 Rhagfyr. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri’r cadwyni trosglwyddo.
Dylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119 i fynd i safle profi sy’n bodoli’n barod i gael prawf PCR swabio eich hun.
Bydd y profion yn cael eu rhoi ar waith drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan y Lluoedd Arfog.
Dyma’r ardaloedd yng Nghwm Cynon Isaf sy’n rhan o’r cynllun profi torfol:
- Abercynon
- Dwyrain Aberpennar
- Gorllewin Aberpennar
- Penrhiw-ceibr
- De Aberaman
Dyma leoliadau’r ddwy brif ganolfan brofi: Canolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon, Aberpennar a Chanolfan Chwaraeon Abercynon. Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu cyhoeddi yn y diwrnodau nesaf.
Yn yr ardaloedd hyn y mae rhai o’r cyfraddau uchaf o’r coronafeirws fesul 100,000 o’r boblogaeth wedi bod yn yr wythnosau diwethaf a gallai canfod preswylwyr sydd â’r feirws, ond heb symptomau, fod yn allweddol i helpu i atal ei ledaeniad.
Bydd y rhaglen profi torfol yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd. Bydd pawb sy'n mynd i unrhyw un o'r safleoedd profi asymptomatig yng Nghwm Cynon Isaf yn cael prawf sy'n defnyddio'r dyfeisiau hyn. Gall y rhain ddychwelyd canlyniad prawf o fewn 20-30 munud.
Os bydd rhywun yn cael canlyniad positif, gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith.
Byddwn yn monitro nifer y canlyniadau positif yn agos i’n helpu i ddeall lledaeniad y feirws yn well. Bydd hyn wedyn o gymorth i weithredu i atal trosglwyddiad pellach.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: “Mae’r cynllun prawf ym Merthyr yn mynd rhagddo’n dda, gan brofi bron i 8000 yn y 6 diwrnod cyntaf. Rwy’n falch y gallwn nawr ehangu’r rhaglen profi torfol i Gwm Cynon Isaf.
“Fel y mae’r cynllun prawf ym Merthyr Tudful wedi’i ddangos, mae profi torfol yn ein helpu i ddeall yn well nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sydd â’r coronafeirws. Mae hefyd yn canfod faint o bobl yn y gymuned sy’n asymptomatig. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac mae angen inni i gyd weithio gyda’n gilydd i drechu’r feirws marwol hwn. Hoffwn ddiolch i bawb ym Merthyr Tudful sydd wedi sicrhau llwyddiant y cynllun prawf a byddwn yn annog pobl yng Nghwm Cynon Isaf i gael prawf.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Ar ôl sawl wythnos o waith cynllunio, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael cyn bo hir i breswylwyr yng Nghwm Cynon Isaf ar ôl ehangu’r cynllun prawf o Ferthyr Tudful. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n brwydr yn erbyn y feirws, gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth well inni o nifer yr achosion a’r gyfradd drosglwyddo yn ein cymunedau.
“Yn dilyn y gwelliant sydd wedi bod, o ran lleihau nifer yr achosion dyddiol a’r gyfradd sy’n profi’n bositif, ar ôl y mesurau lleol a’r cyfnod atal byr cenedlaethol, mae’n bwysig ein bod nawr yn canfod ac yn ynysu’r rhai sy’n asymptomatig yn ein cymunedau. Bydd hyn yn torri’r cadwyni trosglwyddo wrth i achosion nawr ddechrau cynyddu eto.”
Dywedodd y Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Fel Bwrdd Iechyd Prifysgol, rydym yn cefnogi’r profion torfol yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf gan ddefnyddio math newydd o brawf sy’n darparu canlyniadau mewn 30 munud. Mae cyfradd haint COVID-19 yn uchel iawn o hyd yn ein cymunedau, a thrwy fanteisio ar y rhaglen brofi hon, gall pobl yng Nghwm Cynon Isaf chwarae rôl fawr i ddiogelu pawb yn ein cymunedau.”