English icon English

Cyflwyno terfyn pwysau i Bont Menai

Menai Suspension Bridge weight limit introduced

Mae Pont Menai ar agor i geir gyda therfyn pwysau newydd o 3 tunnell o hyn ymlaen ar argymhelliad peirianwyr.

Ni fydd cerbydau mwy yn cael croesi.  Bydd yr heddlu wrth y bont i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio.

Mae hyn yn dilyn gwaith ymchwilio o dan y bont a gynhaliwyd fel rhan o waith Cam 2.  Dangosodd yr ymchwiliad fod angen ailosod rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont.

Mae peirianwyr wedi argymell bod y bont yn ddiogel i draffig ei defnyddio gyda'r terfyn pwysau newydd.

Mae'r argymhelliad wedi dod gan beirianwyr sy'n gweithio i Briffyrdd y DU A55 sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Y cyngor brys gan beirianwyr strwythurol yw y dylai Pont Menai gael terfyn pwysau newydd.

"Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr.

"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn achosi pryder arbennig heno gyda dyfodiad Storm Amy a'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar Bont Britannia.  Mae trefniadau ar waith i gerbydau brys groesi pe bai'r Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion.

"Byddwn yn parhau i bwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r sefyllfa hon sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl eraill."

Bydd y terfyn pwysau yn aros mewn grym nes bod ymchwiliadau pellach wedi digwydd. Bydd diweddariadau pellach dros y dyddiau nesaf gan gynnwys diweddariadau ar yr effaith ar y rhaglen waith ar y bont yn y tymor hwy.