Cyfnod newydd arall i Gastell Coety wrth i waith cadwraeth ddechrau y gwanwyn hwn
Another new era for Coity Castle as conservation starts this spring
Mae’n fis Chwefror ac mae prosiect cadwraeth enfawr yn dechrau yng Nghastell Coety, fydd yn sicrhau bod y castell yn parhau i fod wrth galon y gymuned am genedlaethau i ddod.
Saif y castell yn falch yng nghanol pentref Coety, a bydd yn elwa o waith sy’n debygol o bara am dair blynedd fydd yn defnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu traddodiadol er mwyn helpu adfer y castell a sicrhau ei ddyfodol. Mae’r dull sy’n cael ei ddefnyddio gan Cadw wrth wneud gwaith cadwraeth o’r fath yn sicrhau bod hygrededd ac ymddangosiad y castell yn parhau i fod yn ddilys.
Bydd y prosiect yn cynnwys amrywiol elfennau o waith cadwraeth gan gynnwys ail-bwyntio, ategu strwythurol ac ychydig o ailadeiladu gwaith maen, cryfhau topiau waliau, a gosod linteli coll. Caiff cofnodion manwl eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith er mwyn helpu Cadw ddeall hanes y castell cystal â phosibl a sut yr esblygodd dros amser.
Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad £4.25m yng nghadwraeth a datblygiad safleoedd sydd o dan ofal Cadw yn ystod 2020/21.
Bydd gerddi’r castell yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd tra bo’r gwaith yn cael ei wneud, fodd bynnag ni fydd prif strwythur y castell yn hygyrch am weddill y flwyddyn o fis Mawrth 2020. Mae manylion y cyfyngiadau ar gael ar wefan Cadw. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu, gyda’r nod o sicrhau bod y pentref ehangach yn chwarae rhan gyflawn yng nghadwraeth y castell. Dylai'r rhai sy'n dymuno cynnal digwyddiadau cymunedol yn y castell gysylltu â Cadw i asesu ymarferoldeb cynnal y digwyddiadau ar y safle.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Castell Coety yn safle rhyfeddol, gyda’i arddulliau pensaernïol helaeth yn adrodd stori ei hanes cyfoethog. Mae buddsoddiad parhaus Cadw yng nghadwraeth henebion hanesyddol Cymru yn helpu gwarchod y gorffennol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau ac y gall cymunedau ei drysori.”
John Weaver Contractors LTD o Abertawe sydd wedi ennill y cytundeb i wneud y gwaith.
Nodiadau i olygyddion
Dechreuodd Castell Coety fel gwrthglawdd pridd a phren Normanaidd, cyn troi’n strwythur amddiffynnol mwy cymhleth, gyda gorthwr carreg a murlen yn cael eu hychwanegu tua diwedd y 12fed ganrif. Arweiniodd y feddiannaeth hir at lawer o ailadeiladu ac addasu. Ychwanegwyd fowtiau at loriau isaf y gorthwr fel rhan o waith adeiladu helaeth yn ystod y 14eg ganrif. Ychwanegwyd rhesi domestig newydd yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gan gynnwys neuadd ac ystafelloedd gwasanaeth, ac ychwanegwyd y capel ar y llawr cyntaf yn ystod y 15fed ganrif. Bu sawl cyfnod arall o waith adeiladu yn ystod y 16eg ganrif hefyd, gan gynnwys ychwanegu llawr newydd i’r gorthwr, yn ogystal â ffenestri a simneiau newydd.
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gweithio tuag at amgylchedd hanesyddol hygyrch sy’n cael ei warchod yn dda. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cadw yn llyw.cymru/cadw.