English icon English

Cyfraddau canfod canser y coluddyn wedi dyblu ers gostwng yr oedran sgrinio

Bowel cancer detection rates double since lowering screening age

Mae gostwng yr oedran sgrinio yng Nghymru o 60 oed i 50 oed yn ystod y pedair blynedd diwethaf wedi helpu i ddyblu nifer yr achosion o ganser y coluddyn sy'n cael eu canfod yng Nghymru.

Mae sgrinio yn helpu i wneud diagnosis yn gynt, ac ar adeg pan fo'r cyflwr yn haws i'w drin.

Ers cyflwyno ehangu'r oedran yn 2021, mae cyfraddau diagnosis o ganser y coluddyn wedi cynyddu yn y rhaglen sgrinio o 211 yn 2020-21 i 457 yn 2023-24.  Mae gwahoddiadau blynyddol ar gyfer sgrinio wedi cynyddu o 223,000 i fwy na 500,000.  

Canser y coluddyn yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser, ac mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Ond pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae modd trin y canser a'i wella, ac mae'r siawns o oroesi yn cynyddu'n sylweddol.

Mae gwasanaeth sgrinio'r coluddyn bellach yn cael ei gynnig i bawb rhwng 50 a 74 oed sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru. Ers mis Hydref y llynedd, mae unigolion cymwys yn cael pecyn profi yn awtomatig drwy'r post pan fyddant yn 50 oed, a bob dwy flynedd ar ôl hynny.

Gall sgrinio helpu i ganfod canser y coluddyn cyn i'r symptomau ddechrau. Gall hefyd ganfod polypau, sef tyfiannau nad ydynt yn ganser, ac yna gellir tynnu'r rhain ac atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf.

Mae'r broses sgrinio yn cynnwys prawf imiwnocemegol ar ysgarthion sy'n hawdd ei ddefnyddio ac sy'n fwy sensitif. Gall ganfod canser y coluddyn yn well, gan helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar brawf sgrinio ymhlith dynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Mae atal a thrin canser yn ymrwymiad hirdymor inni ac mae canfod yn gynnar yn hanfodol i wella canlyniadau canser.

"Flwyddyn ers gostwng yr oedran sgrinio i 50, mae'r canlyniadau hyn yn dweud y cyfan. Mae canfod canser yn gynnar o fudd mawr i'n gwasanaeth iechyd ac mae'n gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw i'r unigolyn. Felly, rwy'n annog pawb sy'n 50 oed neu'n hŷn i fanteisio i'r eithaf ar y rhaglen.

 "Rydyn ni hefyd yn buddsoddi'n sylweddol ac yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i sicrhau bod ganddo'r gallu i ymchwilio i fwy o achosion o ganser a'u trin yn y tymor hir."

Dywedodd Steve Court, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru:

"Mae gostwng yr oedran sgrinio wedi bod yn gam mawr ymlaen yn y frwydr yn erbyn canser y coluddyn yng Nghymru. Mae mwy o bobl nag erioed yn manteisio ar y pecyn profi gartref ac mae mwy o achosion o ganser yn cael eu canfod o ganlyniad. Mae hyn yn golygu y bydd bywydau'n cael eu hachub. Mae 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddal yn gynnar.  

"Rwyf i wir yn annog pobl gymwys i ddefnyddio'r pecyn profi pan fyddan nhw'n ei gael drwy'r post. Mae'n rhad ac am ddim, yn hawdd i'w ddefnyddio a gallai achub eich bywyd."