Cyfraith newydd i’w gwneud yn haws i bobl yng Nghymru sefyll i fod yn gynghorwyr lleol
New law to make it easier for more people in Wales to stand to be local councillors
O dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth a thryloywder mewn llywodraethau lleol, bydd yn haws i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a rhannu swyddi'r cabinet, a bydd hefyd rhaid i gynghorau ddarlledu eu cyfarfodydd ar-lein.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant llywodraethau lleol.
Mae cynyddu amrywiaeth ymysg aelodau etholedig yn helpu cynghorau i gynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn well drwy gyflwyno amrywiaeth mwy eang o safbwyntiau a phrofiadau.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bil yn:
- Cryfhau trefniadau presennol er mwyn galluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol. Bydd y newid yn ei gwneud yn haws i ddiweddaru trefniadau ar gyfer cyfnodau o absenoldeb teuluol wrth i bolisi ddatblygu yn y maes hwn;
- Galluogi rhannu swydd yng Ngweithrediaeth/Cabinet y cyngor, gan gynnwys swydd yr Arweinydd. Bydd hefyd yn caniatáu i swyddi aelodau Gweithredol/aelodau Cabinet cynorthwyol gael eu creu;
- Diwygio'r meini prawf cymhwysedd i ymgeiswyr etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i ddinasyddion o unrhyw wlad (sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru) sefyll, yn ddarostyngedig i feini prawf anghymhwyso;
- Galluogi cyflogeion y cyngor i sefyll mewn etholiad (y rhai hynny nad ydynt mewn swyddi a gyfyngir yn wleidyddol/uwch-swyddogion) heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf (bydd rhaid iddynt ymddiswyddo pe baent yn cael eu hethol);
- Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp.
Bydd y Bil hefyd yn sicrhau y bydd penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bil rhoi gofynion newydd ar waith o ran ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd.
Bydd rhaid i Gynghorau:
- Gael strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio, yn gwneud penderfyniadau, a sut y gall bobl leol gyfrannu. Fel rhan o hyn, bydd rhaid i Gynghorau gyhoeddi canllaw ynghylch eu cyfansoddiadau mewn 'iaith syml'.
- Llunio cynllun deisebau, sy'n nodi sut y bydd awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â deisebau, gan gynnwys e-ddeisebau;
- Defnyddio technoleg i wella tryloywder a galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan ym musnes y cyngor drwy ddarlledu cyfarfodydd cyhoeddus, a sicrhau fod dogfennaeth cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi'n ddigidol.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
"Fel rhan o'n huchelgais i gael llywodraeth leol gadarn yng Nghymru, rydym am i bobl deimlo bod eu cynghorwyr yn eu cynrychioli'n dda. Mae'r cynigion yn y Bil hwn wedi'u dylunio i gynyddu amrywiaeth ymysg ein cynghorwyr lleol, yn ogystal â chynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol.
"Rydym am alluogi democratiaeth leol sy'n adlewyrchu ein hamrywiaeth fel cenedl. Bydd y Bil yn helpu i annog llawer mwy o bobl yng Nghymru i sefyll i fod yn gynghorwyr, a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu gwneud swyddi arweiniol a gweithredol. Mae'r Bil hefyd yn cymryd camau i annog amrywiaeth ehangach o aelodau'r cyhoedd i fod yn rhan o ddemocratiaeth leol.
"Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod llywodraethau lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb drwy helpu’r bobl sydd angen cymorth fwyaf, a hynny pan y byddant ei angen a lle y byddant ei angen."