English icon English
Julie James

Cyfraith newydd wedi’i phasio i roi rhagor o ddiogelwch i denantiaid yng Nghymru

New law passed giving more protection for tenants in Wales

Mae deddfwriaeth newydd wedi’i phasio yn y Senedd, a fydd yn rhoi rhagor o ddiogelwch, sefydlogrwydd a sicrwydd i denantiaid yn eu cartrefi. Bydd Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) hefyd yn egluro cyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid yn well, gan helpu i osgoi anghytundebau ac anawsterau.

Mae'r newidiadau'n golygu y bydd contractau rhentu yng Nghymru yn newid fel a ganlyn yn ystod gwanwyn 2022:

  • Bydd gan denantiaid ddiogelwch a sefydlogrwydd contract 12 mis o leiaf;
  • Bydd y cyfnodau hysbysu byrraf a ganiateir yn cael eu hymestyn o ddau fis i chwe mis mewn achosion o "droi allan heb fai" – a bydd landlordiaid ond yn gallu cyflwyno hysbysiad chwe mis ar ôl i’r tenantiaid symud i mewn;
  • Bydd contractau rhentu yn cael eu symleiddio a'u safoni a bydd contractau enghreifftiol ar gael;
  • Er y bydd y cyfnod hysbysu y mae'n rhaid i landlordiaid ei roi yn hirach, byddant yn dal i allu ceisio adfeddu eu heiddo os yw tenant yn torri ei gontract.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod y broses o rentu cartref yng Nghymru yn deg, yn syml ac yn effeithlon, a bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau'r un o bob tri o bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru.

“Diolch i'n hymdrechion, bydd gan denantiaid fwy o dawelwch meddwl wrth rentu. Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain ac i allu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Bydd manteision amlwg i landlordiaid hefyd. Bydd contractau cliriach a haws eu deall yn lleihau anghydfodau a chostau cyfreithiol a bydd y drefn newydd yn ffordd well i landlordiaid ddelio ag eiddo gadawedig."

Dywedodd David Wilton, Prif Weithredwr, TPAS Cymru:

“Mae safbwyntiau a lleisiau tenantiaid ledled Cymru wedi helpu i lywio’r gyfraith newydd hon, felly mae TPAS Cymru yn croesawu’r datblygiad hwn sy’n gwneud rhentu yng Nghymru yn haws.

Rydym yn credu bod y contractau newydd yn ei gwneud yn haws i denantiaid a landlordiaid ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau priodol.

Rydym yn croesawu’n benodol y mesurau diogelu newydd sy’n rhoi rhagor o ddiogelwch o ran cyfnodau hysbysu ac yn cynnig hyblygrwydd pe byddai amgylchiadau tenantiaid yn newid.”