English icon English
First Minister sealing ceremony -2

Cyfraith newydd yn moderneiddio democratiaeth Cymru

New law modernises Welsh democracy

Heddiw mae Eluned Morgan wedi rhoi ei sêl ar ei deddf gyntaf fel Prif Weinidog Cymru. Mae'r gyfraith newydd gan y Senedd yn helpu i foderneiddio'r weinyddiaeth etholiadol ac yn cael gwared ar rwystrau i ymgysylltu democrataidd.

Cyflwynwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i'r Senedd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2023 ac fe'i pasiwyd gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf eleni. 

Mae'r gyfraith newydd yn golygu mai dinasyddion Cymru fydd y rhai cyntaf o'r Deyrnas Unedig i gael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr bleidleisio, gan ddilyn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal sydd â system debyg eisoes ar waith.

Amcangyfrifir y gallai hyd at 400,000 o bobl nad ydynt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio gael eu hychwanegu at y gofrestr.

Ochr yn ochr â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru, bydd y ddeddf newydd yn:

  • sefydlu corff newydd i Gymru gyfan sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru yn effeithiol.
  • creu llwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar-lein.
  • cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.

Mae'r ddeddf hefyd wedi ymrwymo i ehangu rôl a chylch gwaith Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru: "Dylai pob person sy'n byw yng Nghymru gael y cyfle i fwrw eu pleidlais mewn etholiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau. Er bod gan bawb yr hawl i benderfynu a ydyn nhw'n pleidleisio, bydd cofrestru awtomatig yn helpu i chwalu'r rhwystrau posibl rhag pleidleisio.

"Mae cyflwyno'r gyfraith hon yn gam enfawr ymlaen i wneud system o weinyddiaeth etholiadol yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain."