Cyfyngiadau lleol i reoli’r coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf
Local restrictions imposed to control Rhondda Cynon Taf outbreak
Caiff y cyfreithiau coronafeirws eu tynhau ar draws ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd mawr yn yr achosion o’r feirws, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.
Daw nifer o reolau newydd i rym am 6pm ddydd Iau 17 Medi 2020, mewn ymgais i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn yr ardal.
- Ni fydd pobl yn cael dod i mewn i ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf, na gadael yr ardal, heb esgus rhesymol;
- Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do – fel yng ngweddill Cymru;
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd am y tro. Ni chaiff pobl gwrdd ag aelodau o’u haelwyd estynedig o dan do, na ffurfio aelwyd estynedig chwaith;
- Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm.
Bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn berthnasol i bawb sy’n byw o fewn ardal Rhondda Cynon Taf.
Fe’u cyflwynir yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion coronafeirws a gadarnhawyd, am fod pobl yn y sir wedi bod yn cwrdd o dan do, yn anwybyddu’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ac yn dychwelyd o wyliau tramor.
Caiff y cyfyngiadau eu hadolygu’n rheolaidd ond os na fydd nifer yr achosion yn lleihau, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried mesurau pellach.
Dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething:
“Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr achosion yn Rhondda Cynon Taf dros gyfnod byr iawn o amser, oherwydd bod pobl wedi bod yn cymdeithasu o dan do heb gadw pellter cymdeithasol.
“Mae tystiolaeth yn awr o drosglwyddiad cymunedol ehangach yn y fwrdeistref, sy’n golygu bod rhaid inni gymryd camau ar frys i reoli, ac yna lleihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd pobl.
“Mae arnom angen help pawb yng Nghymru i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Dim ond os yw pawb yn cyd-dynnu ac yn dilyn y rheolau newydd hyn y gallwn reoli’r feirws. Mae’r rheolau yno i’ch diogelu chi, eich teulu a’ch cymuned.
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae’n dal i fod ar led mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n hanfodol bod pobl yn cadw at y rheolau.”
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd achosion newydd dros saith diwrnod yn awr yn 82.1 ym mhob 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Ddoe, roedd y gyfradd a gafodd brawf positif yn 4.3% – sef y gyfradd uchaf o achosion positif yng Nghymru.
Mae timau olrhain cysylltiadau wedi gallu olrhain tua hanner yr achosion yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Mae’r gweddill yn gysylltiedig â throsglwyddiad cymunedol.
Mae sawl clwstwr o achosion yn Rhondda Cynon Taf, a dau o’r rhain yn rhai arwyddocaol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yng Nghwm Rhondda isaf a’r llall yn gysylltiedig â thaith clwb i rasys Doncaster, wnaeth alw mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd.
Adolygir y mesurau newydd yn rheolaidd. Yr awdurdod lleol a’r heddlu fydd yn gorfodi’r cyfyngiadau newydd.
I ddiogelu Cymru:
- cadwch bellter cymdeithasol bob amser
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd
- os ydych chi’n cwrdd ag aelwyd arall, nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig, arhoswch yn yr awyr agored
- gweithiwch gartref os yw’n bosibl
- arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.