English icon English

Cyfyngiadau symud ar wartheg yng Nghymru i reoli TB yn well

Welsh cattle movement restrictions enhance TB control

Bydd teuluoedd ffermio Cymru yn elwa wrth i fesurau cryfach i reoli TB ddod i rym o Ionawr 2026 a fydd yn gosod cyfyngiadau symud am oes ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf. 

Yn dilyn cais gan y diwydiant a chyngor arbenigol annibynnol wedi hynny, cyhoeddwyd y bydd polisïau ar wartheg sy'n cael Adwaith Amhendant (IRs) yn newid. 

Bydd gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf TB trwy ddehongliad safonol sydd wedyn yn cael ail brawf clir o 1 Ionawr 2026 ymlaen yn gorfod aros am eu hoes ar eu daliad gwreiddiol. Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod yr anifeiliaid hyn 3 gwaith yn fwy tebygol o gael adwaith i brawf TB na gwartheg sy'n cael prawf clir. 

Y ffenestr brofi arferol ar gyfer ail brawf IRs yw rhwng 60 a 90 diwrnod.  Felly, mae'n bosibl y bydd yr IRs gaiff eu datgelu ar ôl 1 Tachwedd ac na fydd wedi cael eu hail brawf tan ar ôl 1 Ionawr 2026 yn dod o dan y rheolau newydd. Dim ond yn syth i ladd-dy neu gyda thrwydded i Uned Besgi Gymeradwy trwy ganolfan gasglu neu arwerthiant TB penodedig y cewch symud y gwartheg hyn. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Gofynnodd y diwydiant, ac rydyn ni wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch gan fod cyfran fwy ohonyn nhw’n cael adwaith i brawf TB wedi hynny. Mae perygl felly y gall gwartheg sydd â'r haint heb ei ganfod arnyn nhw gael eu symud a lledaenu TB i fuchesi eraill. 

"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a Bwrdd y Rhaglen i wneud newidiadau go iawn fydd yn ein helpu i ddelio â'r clefyd a chefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd." 

Mae'r newid hwn yn mynd i'r afael â phryderon y diwydiant am ledaenu TB rhwng buchesi. O dan yr hen drefn, roedd IRs safonol yn cael symud yn rhydd ar ôl ail brawf negyddol, gan drosglwyddo haint heb ei ganfod i fuchesi glân. 

Mae partneriaeth gref yn cryfhau'r mesurau rheoli TB yn Sir Benfro hefyd, lle mae milfeddygon a ffermwyr yn cael eu grymuso trwy ddarparu data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd.    Mae Michael Williams o Fferm Fagwrfran yn Sir Benfro yn croesawu'r newid: “Yn sgil cymryd rhan ym Mhrosiect Sir Benfro, rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am TB ac anifeiliaid risg uchel a deall y pwnc yn well. Rydyn ni’n deall y risg y mae adweithyddion amhendant yn eu creu a’r potensial iddynt gael eu heintio a dod yn gronfa ar gyfer yr haint. Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i gyfyngu ar symudiadau’r anifeiliaid hyn a gobeithio y bydd yn help i atal lledaeniad y clefyd o fferm i fferm.”

Gan adeiladu ar yr egwyddorion a'r arferion gorau a sefydlwyd yn Sir Benfro, mae menter debyg yn cael ei chynnal nawr yn yr ardal TB isel y Gogledd.   Meddai Paul Williams, o Gae Haidd, Conwy: "Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae ein ffrindiau yn Sir Benfro wedi'i wneud, ein nod yma yn y Gogledd yw cadw TB draw o gymaint o'n hardal â phosibl. Bydd meddwl y tu allan i'r bocs a defnyddio technegau a data arloesol, a gweithio â milfeddygon lleol, yn allweddol i wireddu, gobeithio, ein prif nod. Mae'r newidiadau sydd ar fin digwydd i'r cyfyngiadau ar symud gwartheg sydd yn rhai risg uchel yn ffordd ddoeth ymlaen, a bydd yn lleihau'r risg o gyflwyno'r clefyd dinistriol hwn i'n ffermydd."