English icon English
stethoscope-2617701 1920-2

Cyhoeddi amseroedd aros ‘gwirioneddol’ ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru'n

‘Real’ wait times for cancer services in Wales published

Heddiw (Dydd Iau 18 Chwefror) mae ffigurau mwy cywir ar amseroedd aros sy'n dangos yr amser gwirioneddol a gymerir o’r adeg yr amheuir bod ar bobl ganser nes iddynt gael triniaeth. 

Dyma'r tro cyntaf y mae ffigurau’r Llwybr lle'r Amheuir Canser (SCP) yn cael eu hadrodd o system newydd sy'n casglu data ar lefel y claf.

Gan fod SCP yn darparu arhosiadau mwy cywir yn achos cleifion mae'r hen fesurau o Achosion brys o Ganser a Amheuir (USC) ac Achosion o Ganser a Amheuir nad ydynt yn Rhai Brys  (NUSC) yn dod i ben.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i adrodd ar amseroedd aros canser fel hyn. Mae'r llwybr wedi'i gynllunio i dorri amseroedd aros ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser a'r nod yw y bydd pob claf yn dechrau triniaeth heb fod yn fwy na 62 diwrnod o'r tro cyntaf yr amheuir bod canser arnynt.

Cafwyd datganiad ynghylch y dull gweithredu symlach ym mis Tachwedd 2018 ac fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ochr â'r hen fetrigau ym mis Awst 2019. Er mis Rhagfyr 2020 ni chaniateir unrhyw addasiadau sy'n golygu bod y SCP yn dangos yr union amser yr arhosodd cleifion.

Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer mis Rhagfyr 2020 yn dangos y canlynol;

  • Dechreuodd 1,345 o gleifion eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar y llwybr lle'r amheuir canser ym mis Rhagfyr 2020.
  • O'r rhain, dechreuodd 882, (65.6 y cant) driniaeth ddiffiniol ar gyfer canser o fewn 62 diwrnod o'r adeg yr amheuwyd bod canser arnynt. Mae hwn yn gynnydd cadarnhaol o 2.1 pwynt canran ers mis Tachwedd 2020 (63.5 y cant).
  • Cadarnhawyd nad oedd canser ar 7,999 o gleifion.

Bydd dangosfwrdd manylach ar gael hefyd o fis Mawrth 2021 a fydd yn dangos rhagor o wybodaeth am amseroedd aros megis aros am yr apwyntiad newydd, aros am y diagnosis cyntaf a dadansoddiad yn ôl Bwrdd Iechyd, rhywedd a safle'r tiwmor.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Bydd canser yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein bywyd. Canser yw'r achos unigol mwyaf o farwolaeth cyn pryd yng Nghymru ac fe fydd yn cyffwrdd â bywyd pob un ohonom rywbryd.

“Mae'n glir yn ystod y pandemig nad yw llawer o gleifion yr amheuir bod arnynt ganser wedi mynd ar eu meddyg teulu. Mae'n hanfodol bwysig ichi ymweld â'ch Meddyg Teulu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw fath o symptomau canser.

“Rydyn ni am sicrhau bod pawb yr amheuir bod arno ganser yng Nghymru'n cael mynediad at driniaeth amserol a phriodol a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl, neu'n cael gwybod cyn gynted â phosibl nad oes ganddynt ganser. 

“Er bod y ffigurau a gyhoeddir heddiw yn is na'r targed o 75 y cant sydd wedi'i bennu, maent yn ffordd llawer mwy cywir o fesur pa mor hir y mae'n cymryd i atgyfeirio canser a amheuir, i ymchwilio iddo ac i driniaeth ddechrau. Gwyddom faint yn rhagor o waith y mae ei angen i wella perfformiad.”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru:

“Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dal i ddefnyddio’r canser a amheuir, sy'n golygu mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i fesur amseroedd aros ar gyfer canser o'r pwynt yr amheuir canser yn hytrach na'r adeg y daw atgyfeiriad i law.

“Mae hyn yn rhoi darlun mwy cywir inni o amseroedd aros gwirioneddol ar gyfer canser ac mae wedi datgelu amseroedd aros cudd, sydd wedi bod yn bwysicach byth yn ystod pandemig y coronafeirws lle y mae sgrinio a diagnosteg ym maes canser wedi cael eu haflonyddu.

“Nid yw diagnosis o ganser yn gallu aros felly hoffem annog unrhyw un sydd â symptomau newydd sy'n peri pryder megis peswch cyson, lwmpyn neu waedu anesboniadwy, i gysylltu â'u Hymarferydd Cyffredinol cyn gynted â phosibl.

“Gall un sydd am gael gwybodaeth, cymorth neu sgwrs am ganser gysylltu â Macmillan am ddim ar 0808 808 0000.”