English icon English

Cyhoeddi Bil drafft a fydd yn rhoi pŵer i bleidleiswyr Cymru ddiswyddo Aelodau o’r Senedd

Draft Bill giving Welsh voters power to remove Senedd Members published

Mae fersiwn ddrafft o ddeddfwriaeth i roi’r pŵer i bobl yng Nghymru ddiswyddo Aelodau o’r Senedd sy’n torri rheolau ymddygiad yn ddifrifol wedi’i chyhoeddi heddiw (6 Hydref).

Bydd cyhoeddi Bil drafft Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn rhoi mwy o amser i Aelodau’r Senedd ac eraill ymgyfarwyddo â’i gwmpas a’i gyfeiriad cyn iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

Mae’r gwaith o baratoi’r Bil yn parhau i fynd rhagddo, ac mae'n bosibl y bydd newidiadau yn cael eu gwneud cyn iddo gael ei gyflwyno gerbron y Senedd.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn cryfhau safonau democrataidd drwy gyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer y Senedd, gan gynnwys dau ddigwyddiad sbardun clir, fel a ganlyn, a fyddai’n arwain at wneud Aelod yn destun pôl adalw:

  • Pan fo Aelod yn cael ei euogfarnu o drosedd ac yn cael dedfryd o garchar, gan gynnwys dedfrydau wedi’u gohirio;
  • Pan fo’r Senedd yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dylid gwneud Aelod yn destun pôl adalw o ganlyniad i gamymddwyn difrifol.

Mae’r Bil drafft yn cynnwys gofyniad statudol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a allai, am y tro cyntaf, gynnwys aelodau lleyg annibynnol i gyfrannu arbenigedd allanol ac annibynnol at broses safonau’r Senedd.

Byddai gan y Comisiynydd Safonau hefyd bwerau ychwanegol i ymchwilio i bryderon am ymddygiad Aelodau.

Mae hefyd yn diwygio pwerau Gweinidogion Cymru i osod rheolau ynghylch sut y caiff etholiadau i’r Senedd eu cynnal. Er mwyn mynd i’r afael â dichell fwriadol, bydd hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wahardd datganiadau ffug mewn gorchmynion ymddygiad yn y dyfodol a fydd yn ymwneud â llywodraethu etholiadau i’r Senedd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, Julie James:

“Mae pobl yng Nghymru yn haeddu cynrychiolwyr sy’n cynnal y safonau ymddygiad uchaf.

“Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft hon yn ceisio adeiladu sylfeini cryfach ar gyfer democratiaeth Cymru i wneud yn siŵr, pan fo Aelodau yn torri’r safonau hynny yn ddifrifol, fod gan bleidleiswyr y pŵer i’w dal yn atebol yn uniongyrchol.

“Yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Safonau, mae’n ymwneud â chryfhau uniondeb democrataidd a sicrhau bod camymddwyn difrifol yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol, a hynny gan fod ymddiriedaeth yn ein democratiaeth yn dibynnu ar Aelodau yn atebol i’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu.”

Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ddiweddarach yr hydref hwn. Os caiff ei basio, bydd yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer adalw ac yn egluro’r pwerau i gyflwyno trosedd o ddichell fwriadol gan ymgeiswyr a’i rhoi ar waith yn llawn, gan gynnwys canllawiau manwl ac is-ddeddfwriaeth, i’w cwblhau yn nhymor nesaf y Senedd.

Nodiadau i olygyddion

The publication of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Bill follows extensive consultation and evidence gathering by the Senedd's Standards of Conduct Committee.

The Standards of Conduct Committee published two reports into Individual Member Accountability: Individual Member Accountability – Recall on 23 January; and Individual Member Accountability – Deliberate Deception on 19 February.

https://www.llyw.cymru/drafft-bil-senedd-cymru-atebolrwydd-aelodau-ac-etholiadau 

https://www.gov.wales/draft-senedd-cymru-member-accountability-and-elections-bill

Datganiad Ysgrifenedig: Bil drafft Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (6 Hydref 2025) | LLYW.CYMRU

Written Statement: Draft of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Bill (6 October 2025) | GOV.WALES