English icon English

Cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd gan Lywodraeth Cymru

Substantial investment to improve public transport and support economic growth announced by Welsh Government

Mae £30 miliwn i gael ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac annog twf economaidd, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Cafodd y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru eu gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer cyllid Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau a fydd yn: 

  • Cefnogi blaenoriaethau economaidd ar gyfer swyddi a thwf
  • Lleihau segurdod economaidd drwy roi mynediad diogel a fforddiadwy at addysg, gwasnaethau allweddol a chyflogaeth, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig neu wledig
  • Cysylltu cymunedau
  • Annog teithio actif a chynaliadwy
  • Gwella dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau amseroedd teithio 

Wedi asesu’r ceisiadau, mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidaieth wedi cyhoeddi:

  • Y bydd £22.6 miliwn yn cael ei ddyrannu i 22 o brosiectau ar draws 15 o awdurdodau lleol fydd yn golygu gwella segurdod economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth, annog dulliau iachach o deithio a chysylltu cymunedau. 
  • Bydd £3.531 miliwn yn cael ei ddyrannu i brosiect Metro Gogledd Cymru i gyflawni 10 o gynlluniau ar draws 4 o awdurdodau lleol.    
  • Bydd £4.1 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi 17 o gynlluniau ar draws 13 o Awdurdodau Lleol i leihau tagfeydd bysiau ac oedi ar goridorau trafnidiaeth gyhoeddus strategol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

“Mae’r granitau hyn yn fuddsoddiad sylweddol i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf econoaidd yn lleol wrth inni weithio i helpu adferiad economaidd y wlad o bandemig y coronafeirws. 

“Dwi’n hynod falch bod y cynlluniau hyn yn cynnwys gwelliannau i annog mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio, yn enwedig gan ein bod yn gwybod y bydd teithio llesol yn bwysicach nag erioed wrth inni weithio i reoli lledaeniad y clefyd heintus hwn. 

“Bydd y grantiau hyn yn golygu y caiff dros £20 miliwn ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus integredig.  Mae hyn yn cynnwys £3.6 miliwn i ddechrau adeiladu y ganolfan fysiau newydd ym Merthyr Tudful, rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w weld yn mynd yn ei flaen. 

“Yng ngogledd Cymru rwyf yn ymrwymo dros 2.2 miliwn i ddarparu gwasanaeth gwell, mwy effeithlon i deithwyr drwy wella amseroedd teithio ar fysiau a chyfleusterau i deithwyr yn Sir y Fflint, ac er mwyn gwneud hynny mae £380,000 arall wedi ei fuddsoddi yn ardal Cyngor Conwy.

“Mae ein prif brosiect, prosiect Metro Gogledd Cymru, yn rhan allweddol o raglen y llywodraeth hon i ddarparu system drafnidiaeth mwy integredig ac effeithlon i’r rhanbarth, a bydd hefyd yn derbyn hwb o £3.5miliwn.”