English icon English
catryn ramasut-2

Cyhoeddi Bwrdd Anweithredol Cyntaf Cymru Greadigol

First Non-Executive Board for Creative Wales announced.

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi enwau Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol.

Sefydlwyd Cymru Greadigol ym mis Ionawr i sbarduno twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Catryn Ramasut fydd cadeirydd y bwrdd.  Fel entrepreneur ym maes y cyfryngau, mae gyrfa Catryn Ramasut wedi pontio dros 20 mlynedd ym myd radio, teledu, print, rheoli cerdd a hysbysebu, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.  Ers dychwelyd i Gaerdydd, ei mam-ddinas, yn 2010, mae hi wedi sefydlu cwmni cynhyrchu arobryn, Cynyrchiadau ieie. Dywedodd am ei phenodiad: “Rwy’n fwy awyddus nag erioed i roi o’m hamser a’m hegni i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant creadigol mwy byrlymus sydd o’i hanfod yn amrywiol a chynhwysol.”

Aelodau’r Bwrdd yw: Dr David Banner MBE; Garffild Lloyd Lewis; Helgard Krause; Siân Gale; Richie Turner a Phil Henfrey.

Wrth gadarnhau’r penodiadau, dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rwy wrth fy modd â’r talent, y profiad a’r amrywiaeth sydd gennym ar Fwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol, ac rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gyda nhw i ddatblygu’r sector ymhellach.

“Ein hamcan yw gweithio ar lwyddiannau’r diwydiant sgrin a’u datblygu i sbarduno twf y sector creadigol yn ei gyfanrwydd; datblygu sylfaen sgiliau o safon byd, ehangu’r gefnogaeth y tu hwnt i ffilm a theledu a gwneud Cymru y lle i ddod iddo i sefydlu busnes creadigol.”

Cafodd y Bwrdd ei gyfarfod cyntaf ddydd Gwener, 6 Tachwedd.  Bydd y Cadeirydd a’r aelodau’n gwasanaethu am dair blynedd.

Nodiadau i olygyddion

Llun: Cadeirydd y Bwrdd Catryn Ramasut