English icon English

Cyhoeddi bwrdd cynghori ar gynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Health and social care Welsh Language plan advisory board announced

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi aelodau panel cynghori i fonitro a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth o ofal Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddi bwrdd cynghori ar gynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi aelodau panel cynghori i fonitro a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth o ofal Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Elin Wyn fydd yn cadeirio'r bwrdd, gan weithio gyda saith aelod arall i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn unol â’r camau a nodir yn y cynllun pum mlynedd, Mwy na geiriau, a lansiwyd y llynedd.

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw dywedodd y Gweinidog: "Nod ein cynllun yw creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobl yn cael cynnig eu gofal yn Gymraeg yn rhagweithiol.

Mae ymchwil wedi dangos bod gallu cael gwasanaethau yn y Gymraeg yn gallu gwella profiad pobl yn sylweddol ac, mewn llawer o achosion, bod eu canlyniadau o ran iechyd a lles yn well hefyd. Ond dangosodd hefyd fod pobl yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y Gymraeg ac yn amharod i ofyn os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Mae gan y bwrdd rwy'n ei gyhoeddi heddiw gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o ran y defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddant yn gwneud argymhellion i mi ynghylch meysydd lle gellid gwneud cynnydd pellach ac os daw pryderon i’r amlwg nad yw uchelgais yn cael ei gwireddu.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol ym mlwyddyn gyntaf ein cynllun, gan gynnwys cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth Gymraeg gorfodol i staff y GIG a datblygu canllawiau cynllunio'r gweithlu ar gyfer sgiliau Cymraeg. Mae safonau'r Gymraeg wedi eu gosod ar reoleiddwyr iechyd ac mae gwaith wedi dechrau i leoli tiwtoriaid mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i greu siaradwyr Cymraeg hyderus.

Ond mae llawer mwy i'w wneud ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r bwrdd a chael yr adroddiad cynnydd cyntaf ganddynt yn ddiweddarach eleni."

Aelodau’r bwrdd yw:

Cadeirydd

Elin Wyn - aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn natblygiad Ysgol Feddygaeth newydd Gogledd Cymru. Roedd hi'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae ganddi gyfoeth o brofiad cyfathrebu a marchnata a hanes blaenorol o weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid.

Aelodau

Dr Alwena Morgan - uwch ddarlithydd Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe sydd hefyd wedi cael ei phenodi'n arweinydd y Gymraeg yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Llwyddodd i sefydlu darpariaeth Gymraeg ar gyfer cynlluniau gradd israddedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys effaith gofal Cymraeg ar gleifion sy'n siarad Cymraeg.

Dona Lewis yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Creu siaradwyr Cymraeg newydd yw nod y Ganolfan, gan gyfrannu drwy hynny at wireddu uchelgais Cymraeg 2050. 

Dr Huw Dylan Owen yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ar y Gymraeg mewn gofal a gwasanaethau iechyd ac mae wedi gweithio i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Powys. Mae wedi derbyn gwobr gan Lywodraeth Cymru am ei waith yn integreiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd.

Dr Olwen Williams - meddyg ymgynghorol sydd wedi gweithio ym maes Iechyd Rhywiol a meddygaeth HIV yng Ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi ar secondiad i Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel Cyfarwyddwr Cyswllt Arweinyddiaeth Glinigol. Hi yw Cadeirydd Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru.

Dr Rajan Madhok - dysgwr Cymraeg brwdfrydig. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol Wirral, yn Aelod Anweithredol gyda Llais (Corff Llais y Dinesydd), ac yn Llywodraethwr Cyngor gyda Choleg Cambria. 

Teresa Owen - Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn Gadeirydd Fforwm Iaith Gymraeg y bwrdd iechyd. Cyn hyn bu'n Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Gweinidog Iechyd yn gwneud y cyhoeddiad mewn digwyddiad ar Stondin Llywodraeth Cymru yn yr Eisteddfod heddiw am 12.00 

Mae’r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu, o dan bedair thema:

  • Diwylliant ac arweinyddiaeth
  • Cynllunio a pholisïau o ran y Gymraeg
  • Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu
  • Rhannu arfer da

Mae’r cynllun llawn ar gael yma:

Mwy na geiriau: Cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal Cymdeithasol | LLYW.CYMRU