Cyhoeddi cadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru
New Transport for Wales chair announced
Mae Vernon Everitt wedi'i gyhoeddi yn gadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru.
Ar hyn o bryd, Vernon Everitt yw Comisiynydd Trafnidiaeth a Chadeirydd Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol presennol ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd yn dechrau ei swydd newydd yn nes ymlaen y mis hwn.
Mae'n dod â chyfoeth o brofiad i'w rôl ar ôl gweithio fel Uwch Weithredwr yn Transport for London gyda chyfrifoldeb am wella gwasanaethau i gwsmeriaid a chynyddu teithiau a refeniw ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Yn fwy diweddar roedd yn rhan o waith i fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau ym Manceinion.
Dywedodd Mr Everitt:
"Edrychaf ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet, tîm TrC a'n rhanddeiliaid i sicrhau bod gwelliannau pellach i drafnidiaeth yn cael eu cyflawni ledled Cymru.
"Mae rhaglen enfawr o gyflawni o'n blaenau, gan gynnwys masnachfreinio bysiau, Rhwydwaith Gogledd Cymru, cwblhau Metro De Cymru a pharhau i ddarparu gwell gwasanaethau rheilffyrdd. Bydd y gwelliannau hyn ac eraill yn helpu i gefnogi twf economaidd a mynediad at gartrefi, swyddi a chyfleoedd ledled y wlad."
Gan groesawu'r penodiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae hon yn rôl hynod bwysig a fydd yn cynnwys rhai heriau sylweddol ac rwy'n falch bod y Senedd yn rhannu’r un farn â minnau mai Vernon yw'r person iawn ar gyfer y swydd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gydag ef."