English icon English
SVW-C46-1718-0154-2

Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod.

Food and Drink Festivals and Events Fund announced.

Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau ddydd Mercher 1 Mai.

Mae'r cynllun grantiau bach yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru gan wella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a'u hymwybyddiaeth ohonynt.

Bydd y gronfa yn helpu i fynd i'r afael â chamau gweithredu allweddol 'Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod' Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn anelu at annog cydweithredu a chydweithio rhwng busnesau lletygarwch a bwyd a diod yng Nghymru er mwyn iddynt ddod o hyd i fwy o fwyd a diod lleol, a chynyddu faint o fwyd a diod o Gymru sydd ar fwydlenni ac mewn siopau.

Bydd y cynllun grant yn agor i geisiadau rhwng 1 Mai 2024 a 7 Mehefin 2024 ar gyfer sefydliadau â diddordeb sy'n dymuno cymryd rhan ac sy'n gallu dangos bod eu prosiect/digwyddiad yn cyflawni canlyniadau'r cynllun sydd wedi'u diffinio, a hynny rhwng 1 Mai 2024 a 31 Mawrth 2025.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:  "Bydd y gronfa hon yn cynnig cefnogaeth i wyliau a digwyddiadau bwyd sydd â syniadau arloesol ynghylch hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. 

"Mae bwyd a diod o Gymru yn mynd o nerth i nerth, gyda nifer o gynnyrch newydd a chyffrous o ansawdd uchel ar gael.  Rwy'n falch o gyhoeddi bod y cynllun hwn bellach ar agor, i gefnogi gwyliau a digwyddiadau i arddangos ansawdd ardderchog y bwyd a'r diod sydd gennym yma yng Nghymru.

"Nod y cynllun yw creu mwy o gysylltiadau rhwng gwyliau a digwyddiadau bwyd ag amaethyddiaeth, y system brosesu bwyd, cyrchfannau twristiaeth a'r sector gwasanaeth bwyd. Bydd hyn yn ein galluogi i fanteisio ar y buddion economaidd, a rhoi profiad diwylliannol unigryw, unigryw o ansawdd uchel i ymwelwyr hefyd."

Mae manylion llawn am y cynllun gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais ar gael ar Busnes Cymru ar Twristiaeth Bwyd - Busnes Cymru – Bwyd a Diod (llyw.cymru)