English icon English

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni ansawdd dŵr yn y dyfodol

Additional funding for future water quality programmes announced

Mae £16m ychwanegol wedi'i gyhoeddi i fynd i'r afael â materion sy'n bygwth ansawdd dŵr Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn ystod ymweliad diweddar â phrosiect dalgylch Uwch Conwy yng ngogledd Cymru - un o'r prosiectau sydd wedi elwa ar £40m o gyllid drwy'r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr.

Bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (MRA) i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sy'n bygwth ein hamgylchedd dŵr. Mae'r rhain yn cynnwys afonydd sydd wedi'u haddasu o'u cyflwr naturiol, llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth, llygredd o ardaloedd gwledig a llygredd o fwyngloddiau metel hanesyddol.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: “Rwy'n gwybod pa mor gryf mae pobl yn teimlo am wella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd – ac mae hynny'n gwbl briodol. Dyna pam rydym wedi darparu £16 miliwn o gyllid ychwanegol i CNC a'r MRA eleni yn y gyllideb ddrafft i wneud hynny'n union.

Rwyf mor falch bod gwariant cyfalaf yn fwy na £3bn am y tro cyntaf yn ein cyllideb ddrafft, ac mae hynny'n cynnwys arian i wella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd.

Ar ôl elwa ar gyllid blaenorol, mae prosiect dalgylch Uwch Conwy yn brosiect partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac mae wedi galluogi cydweithio rhwng tenantiaid, ffermwyr, perchnogion tir a chymunedau i sicrhau manteision i bobl sy'n byw yn Nyffryn Conwy.

Wrth siarad am yr ymweliad diweddar â Chapel Curig, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: “Mae wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu mwy am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yma yn nalgylch Uwch Conwy ers 2020.

“O ailbroffilio rhannau o lan yr afon fel bod yr afon yn gallu ailgysylltu â'r gorlifdir; cyflwyno clogfeini yn ôl i'r afon; plannu coed i sefydlogi glannau afonydd ac adfer cynefinoedd mawn – mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn weithredu i ddod ag ystod eang o fuddion i ansawdd dŵr a byd natur.

“Mae'r prosiect hefyd wedi creu gwell mynediad i'r ardal i bobl, drwy wella'r llwybrau troed, gosod pontydd newydd yn lle hen rai, a chreu llwybr caniataol fel y gall pobl fwynhau eu hardal leol. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o brosiectau fel hyn gyda'r cyllid ychwanegol.”

Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru: “Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sy'n bygwth yr amgylchedd dŵr, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.

“Mae gwella ansawdd dŵr yn allweddol i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau ac er lles pobl.

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ein galluogi ni, drwy ein Rhaglen Gyfalaf Dŵr, i sicrhau bod y gweithgareddau cywir yn cael eu rhoi ar waith yn y lle iawn sy'n ein galluogi i gyfrannu at yr amcan tymor hwy o sicrhau gwaith Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd dŵr a nodau llesiant Cymru.”