English icon English

Cyhoeddi cynllun newydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau

New plan announced to advance gender equality in Wales

Mae creu Cymru sy’n fwy cyfartal yn sail i’n holl waith” dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw (Mawrth 10) wrth iddi gyhoeddi cynlluniau newydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

 

Mae’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru gyfartal yn golygu rhannu grym, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuaidd.

Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar bob math o feysydd polisi, gan gynnwys iechyd, addysg a thlodi. Ymysg y gwaith a fydd dod o dan y cynllun hwn dros y tair blynedd nesaf bydd y canlynol -

  • adolygiad o gyfnodau mamolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir,
  • datblygu cynllun strategol am dlodi mislif,
  • adolygiad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn pensiwn cyflogaeth
  • cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, “Rydyn ni’n benderfynol o roi sylw i’r anghydraddoldebau hyn yn unol ag argymhellion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau.”

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen i ni weithredu ar fyrder i sicrhau cydraddoldeb i fenywod ar draws pob maes polisi sy’n gyfrifoldeb i ni. Rwy’n llwyr gefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o gamwahaniaethu yn erbyn menywod, ac rwy’n gweithio i ymgorffori hyn i’n polisïau a’n cyfreithiau.”

“Rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wynebu’r her hon, ac y bydd yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau cydraddoldeb i bawb.”

Nodiadau i olygyddion

The Advancing Gender Equality in Wales Plan can be viewed: https://gov.wales/advancing-gender-equality-action-plan