English icon English

Cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Winter plan for health and social services in Wales published

Heddiw (15 Medi), bu’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn disgrifio’r paratoadau sy’n digwydd yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer ymateb i’r heriau mawr y byddant yn eu hwynebu y gaeaf hwn.

Mae Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn disgrifio sut y bydd y gwasanaethau hyn yn ymdopi â’r her ychwanegol sy’n codi yn sgil COVID-19, a hynny mewn cyfnod sydd fel rheol yn adeg hynod brysur i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Mr Gething “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y gaeaf bob amser yn adeg heriol o’r flwyddyn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gadewch inni fod yn glir, bydd yr heriau a wynebir y gaeaf hwn yn fwy difrifol byth, oherwydd yr angen i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r cynnydd yn nifer yr achosion sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe ddaw’n amlwg yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf a fydd yn rhaid inni gyflwyno mesurau mwy sylweddol i reoli’r feirws ai peidio.

“Mae’n bwysig paratoi ar gyfer y gwaethaf, ac mae Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn nodi’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i sicrhau parodrwydd ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cynllun yn pwysleisio nifer o feysydd sydd bellach yn gyfarwydd, yn ogystal â meysydd sy’n hanfodol ar gyfer rheoli’r feirws.

“Mae’n cael ei gefnogi gan becyn sefydlogi’r GIG gwerth £800m, a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar, ynghyd â’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol a’r sector gofal.”

Yn ogystal â’r cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau i leihau’r pwysau ar adrannau brys, cymerir camau ychwanegol eleni i atal y coronafeirws rhag lledaenu a sicrhau bod gan y GIG ddigon o gapasiti i ymateb i gynnydd mewn achosion.

Mae cynyddu’r capasiti gwelyau a’r capasiti ar gyfer cynnal profion; sefydlu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau; defnyddio technoleg; ac ehangu’r rhaglen brechu rhag y ffliw i gyd yn elfennau hollbwysig o’r ymdrechion i ddiogelu’r cyhoedd rhag y coronafeirws.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Er y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhengflaen yn barod ar gyfer y gaeaf, mae’n hanfodol hefyd cael cydweithrediad y cyhoedd er mwyn inni allu atal y feirws rhag lledaenu a diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

Mae fferyllfeydd, Galw Iechyd Cymru, optegwyr, deintyddion, Unedau Mân Anafiadau, ymwelwyr iechyd, nyrsys cymunedol, bydwragedd, a phractisau meddygon teulu, i gyd yn gallu darparu cyngor a thriniaeth pan na fydd gofalu amdanoch chi eich hunan gartref yn ddigon i ddatrys y broblem.

Dywedodd Mr Gething: “Mae gwneud y dewis iawn yn eich helpu i gael y gofal priodol yn brydlon, ac ar ben hynny mae’n arbed amser i staff y GIG, a fydd yn gweithio’n galetach nag erioed y gaeaf hwn.

Ar gyfer achosion brys difrifol neu achosion lle mae bywyd yn y fantol, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Ond os nad yw’n achos felly, cofiwch fod mannau eraill ar gael ichi gysylltu â nhw i gael cyngor a thriniaeth.”

Mae Cynllun Diogelu’r Gaeaf 2020/21 ar gael yma

https://llyw.cymru/cynllun-diogelur-gaeaf-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol-2020-i-2021