Cyhoeddi cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer ffermio cynaliadwy
Updated plans for sustainable farming announced
“Roedd hi'n amlwg bod angen newidiadau – dywedon ni y bydden ni'n gwrando – ac rydyn ni wedi gwneud hynny” – Y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies
Heddiw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi amlinelliad wedi'i diweddaru o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Gan weithio mewn partneriaeth â'r undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill ar y Ford Gron Gweinidogol a grwpiau ategol, gan gynnwys y Panel Atafaelu Carbon, mae yn y fersiwn ddiweddaraf hon newidiadau pwysig i'r cynigion blaenorol.
Mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag anghenion ffermwyr Cymru ac maent, ar yr un pryd, yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal â'r ymrwymiadau ar newid hinsawdd a natur.
Dyma rai o'r prif newidiadau:
- Mae'r haen Gyffredinol i bawb wedi cael ei chadw ond mae ynddi lai o Weithredoedd Cyffredinol a Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol ychwanegol ar gyfer y rheini a fydd yn dewis gwneud mwy. Mae nifer y Gweithredoedd Cyffredinol wedi gostwng o 17 i 12 ac mae 10 o'r 12 sy'n weddill wedi cael eu newid.
- Mae’r ffigur ar lefel fferm ar gyfer gorchudd coed wedi’i ddileu a bydd targed ar raddfa cynllun gyfan yn cael ei gyflwyno yn ei le a fydd yn cael ei bennu yn dilyn trafodaethau â’r Ford Gron Gweinidogol, a Gweithred Gyffredinol ar gyfer cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi (gwrychoedd). Felly, ni fyddwn yn gofyn bellach i ffermwyr fod ag o leiaf 10% o orchudd coed ar eu tir.
- Bydd ffermwyr a fydd yn gwneud cais o dan y Cynllun yn gallu penderfynu lle byddan nhw am ychwanegu rhagor o goed/wrychoedd ar eu fferm, a faint, ac yn gallu cael cyllid i'w helpu i wneud hynny drwy Haen Opsiynol y Cynllun.
- Mae'r tair weithred Iechyd Anifeiliaid, Lles a Bioddiogelwch wedi cael eu huno'n un weithred symlach fel bod eich trafodaethau gyda'ch milfeddyg yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i iechyd a lles anifeiliaid.
- Mae'r gofyniad i bob fferm osod mannau golchi wedi cael ei newid yn Weithred Opsiynol, gan gydnabod y gall anghenion bioddiogelwch ffermydd unigol fod yn wahanol iawn.
- Cadarnhad y bydd taliadau ychwanegol am werth cymdeithasol yn cael eu gwneud o dan ran gyffredinol y cynllun. Bydd y taliadau hynny'n adlewyrchu'r buddion ehangach a fydd yn deillio o ddiwydiant amaethyddol cynaliadwy.
- Ystyried Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a hawliau tir comin yn y Taliad Cyffredinol. Bydd rhagor o gymorth ar gyfer y ddau ar gael hefyd ar ffurf Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.
O ystyried pwysigrwydd y Cynllun o ran cyfrannu at yr amcanion sydd gan Gymru mewn perthynas â natur a bioamrywiaeth, rydym wedi cadw'r gofyniad i ffermwyr reoli o leiaf 10% o'u fferm fel cynefin.
Er mwyn helpu ffermwyr i fodloni'r gofyniad hwnnw, mae opsiynau ychwanegol i greu cynefin dros dro yn cael eu hystyried. Dylai'r rheini fod yn addas ar gyfer pob system ffermio a phob math o berchenogaeth ar dir.
Wrth wneud y cyhoeddiad yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: “Ar ôl yr ymgynghoriad, roedd hi'n amlwg bod angen newidiadau – dywedon ni y bydden ni'n gwrando – ac rydyn ni wedi gwneud hynny.
“Mae ffermwyr wrth galon cymunedau ledled Cymru, ac maen nhw'n chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi ac wrth gynhyrchu bwyd. Nhw yw stiwardiaid ein tir, ac mae ganddyn nhw hefyd rôl allweddol i'w chwarae wrth warchod ac adfer natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
“Rwy'n falch o allu cyhoeddi Amlinelliad diwygiedig o'r Cynllun heddiw sy'n dangos ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy gydweithio gyda’r Ford Gron.
“Er ein bod wedi cyflawni llawer iawn gyda’n gilydd nid dyma’r Cynllun ar ei ffurf derfynol. Mae’r Ford Gron wedi cytuno y bydd yr Amlinelliad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio fel sail i ddadansoddiad economaidd ac asesiad effaith newydd.”
“Rwy'n hynod ddiolchgar am yr ymdrech aruthrol a wnaed gan holl aelodau'r Ford Gron, gan y Gweithgor Swyddogion a'r Panel Adolygu'r Dystiolaeth am Atafaelu Carbon.
“Rydyn ni'n datblygu cynllun y bwriedir iddo gefnogi pob ffermwr yng Nghymru, ac sy'n yn seiliedig ar gwblhau cyfres o Weithredoedd Cyffredinol. Bydd y Gweithredoedd hynny'n gyfarwydd i ffermwyr yng Nghymru, p'un a ydyn nhw'n ffermio cig eidion, llaeth neu dir âr, ar yr ucheldir, ar yr yr iseldir, yn llai dwys neu'n ddwys. Maen nhw'n weithredoedd y mae llawer o ffermwyr yn eu cymryd eisoes o ddydd i ddydd.
“Bydd y penderfyniad ar y Cynllun terfynol yn cael ei wneud yr haf nesaf, ar sail rhagor o drafodaethau yng nghyfarfodydd y Ford Gron Gweinidogol ac ar sail tystiolaeth, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd a'r asesiad effaith. Ni fydd manylion ynghylch cyfraddau’r taliadau ar gael cyn hynny.”
“Rwy'n parhau'n ymrwymedig i wrando ar ein rhanddeiliaid ac i weithio gyda nhw i sicrhau bod y Cynllun terfynol a ddarparwn y flwyddyn nesaf yn Gynllun a fydd yn helpu i sicrhau bod busnesau ffermio yn gadarn yn economaidd, bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, a'n bod yn cyflawni'n amcanion ar gyfer yr hinsawdd a natur a'n cymunedau gwledig er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
“Rwy'n credu y bydd y newidiadau a nodir heddiw yn yr Amlinelliad o'r Cynllun yn sicrhau y bydd y Cynllun ar gael i bob ffermwr sy'n dymuno bod yn rhan ohono, ac yn cryfhau cyfraniad y Cynllun at ein hymrwymiadau ar yr hinsawdd a natur.
“Rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn – ond mae mwy o waith i'w wneud.”
Sylwadau ategol:
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) ar gyfer Cymru, Victoria Bond –: "Rydym yn falch ein bod wedi chwarae rhan allweddol ym mhroses Bord Gron Gweinidogion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gyflwyno barn ein haelodau a hyrwyddo datrysiadau ymarferol. Mae fersiwn ddiwygiedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir, o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn. Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu effaith y cydweithio adeiladol rhwng rhanddeiliaid fel y CLA a’r llywodraeth ac ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog i gydweithio. Er bod llawer mwy i'w wneud, mae'r garreg filltir hon yn dangos bod newid cadarnhaol yn bosibl pan fydd arbenigedd aelodau ein sector yn cael ei chlywed a'i gwerthfawrogi."
Dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: "Mae gwaith y tri grŵp dros y misoedd diwethaf wedi bod yn sylweddol wrth i ni bwyso a mesur a chymeradwyo, mewn egwyddor, ddyluniad diwygiedig ar gyfer y Cynllun. Rydym wedi croesawu'r cydweithio a'r cyfle i ymgysylltu ar y lefel hon ac yn credu ein bod bellach mewn lle gwell o ganlyniad i hyn.
"Fodd bynnag, un cam ymlaen yn unig yw'r cyhoeddiad heddiw, ac mae lefel uchel o fanylion o hyd i weithio drwyddi a'i gadarnhau, gyda'r dadansoddiad economaidd diweddaraf a'r asesiadau effaith o bwysigrwydd hanfodol.
"Gyda dyluniad Cynllun mwy hygyrch a hyblyg yn dilyn newidiadau sylweddol, mae'n rhaid i ni nawr sicrhau bod y gyllideb a'r fethodoleg taliadau cysylltiedig yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd gwirioneddol i'n ffermydd teuluol yng Nghymru wrth i ni wynebu llu o heriau eraill."
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: "Mae heddiw yn gam pwysig ymlaen wrth ddatblygu'r Cynllun Ffernio Cynaliadwy, er bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd ar sawl agwedd ar y cynllun, gan gynnwys y manylion o dan bob Gweithred Cyffredinol a chyfraddau talu, Os byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth rwy’n hyderus y gall y Cynllun hwn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer bwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau."
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Rachel Sharp: "Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddod ag ystod eang o sefydliadau ynghyd i wrando ar bryderon ffermwyr. Gobeithiwn fod cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y Llywodraeth wedi gwrando ar y pryderon hyn. Fodd bynnag, mae'r angen i helpu ffermydd i allu wynebu’r newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd angen mynd i'r afael ag elfennau allweddol o reoli dŵr a chysgod ar gyfer da byw mewn haenau uwch o'r cynllun. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus ffermwyr yn y cynllun i reoli'r coetir a'r cynefin presennol, ynghyd â chadw'r gofyniad cynllun cynefinoedd o 10%. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen bydd yn hanfodol cefnogi'r ffermwyr niferus sydd am fynd y tu hwnt i hyn os ydym am weld byd natur yn cael ei adfer yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni nawr sicrhau ffocws a chyllideb ddigonol o fewn haenau uwch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae angen i ni alluogi ffermwyr i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur gan mai dim ond nhw sydd â'r gallu i gyflawni hyn dros Gymru."