Cyhoeddi £50,000 ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl gofalwyr di-dâlyn ystod y pandemig
Additional £50,000 announced to support unpaid carers mental health during pandemic
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, yn nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Gofalwyr drwy gyhoeddi £50,000 ychwanegol ar gyfer Gofalwyr Cymru (Mehefin 8-14).
Bydd y cyllid newydd yn darparu cymorth proffesiynol i fwy o ofalwyr di-dâl, a chymorth gan eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw, er mwyn eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
Gan dalu teyrnged i ofalwyr di-dâl, dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Hoffwn fynegi fy niolch a’m hedmygedd i bob gofalwr di-dâl yng Nghymru. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol iawn i lawer o ofalwyr. Mae’r pandemig hwn yn dangos mor hollbwysig yw eu gofal, ac mae’n hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, ein bod yn cydnabod gwerth gofalwyr di-dâl. Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi cyllid ychwanegol heddiw i gefnogi gofalwyr o bob oed i reoli straen eu rôl.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gofalwyr, bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddydd Mawrth am ‘baned rithiol’ gyda gofalwyr er mwyn dysgu mwy am eu profiadau yn ystod y pandemig.
Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru a Chadeirydd Cynghrair Gofalwyr Cymru:
‘Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle blynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl, tynnu sylw at yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a chydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau. Mae Gofalwyr Cymru wrth eu bodd yn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ehangu ein cymorth seicolegol ac emosiynol i ofalwyr di-dâl. Mae iechyd meddwl gofalwyr a’u gallu i ymdopi’n emosiynol wedi bod yn bryder cynyddol inni ers dechrau’r pandemig. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd mwy o ofalwyr a’u cefnogi yn y cyfnod heriol hwn.’
Mae canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi hefyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, sy’n cynnig cyngor ymarferol ynghylch gwneud trefniadau gofal eraill os oes angen, yn ogystal ag adnoddau ar sut y gallant ofalu am eu hiechyd a’u lles. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar ddarparu cyfarpar diogelu personol i ofalwyr di-dâl.