English icon English

Cyhoeddi Grant Pysgodfeydd yng Nghymru i helpu’r sector pysgota drwy bandemig Covid-19

Fisheries Grant announced in Wales to help fishing sector through Covid 19 pandemic

Heddiw, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi grant newydd i gefnogi busnesau pysgota yn ystod y pandemig COVID-19 parhaus.

Mae pysgota wedi dioddef ergyd arbennig o fawr wrth i farchnadoedd allforio a domestig gau oherwydd argyfwng iechyd y cyhoedd.

Mae cymorth sy’n bodoli eisoes ar gyfer y sector busnes ehangach yn aml yn seiliedig ar ffactorau megis gwerth ardrethol eiddo sefydlog, neu nifer yr aelodau staff a gyflogir – ond yn aml nid yw’r rhain yn berthnasol i fusnesau pysgota.

Mae’r cymorth newydd hwn wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel grant i dargedu busnesau pysgota sy’n berchen ar longau, i sicrhau eu bod yn gallu talu costau yn ystod yr adeg anodd hon.

Bydd y grant newydd hwn yn helpu i dalu’r costau penodol sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar long pysgota a bydd yn seiliedig ar faint y llong. Cyfrifwyd y grant ar sail maint llong, gyda mwyafswm o £10,000 i sicrhau synergedd gyda’r Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd pob busnes bwyd môr gweithredol sydd â llongau trwyddedig yng Nghymru ac sy’n cofnodi gwerthiannau o £10,000 neu fwy yn 2019 yn gallu manteisio ar y grant, a bydd budd-daliad sengl yn cael ei ddarparu i bob pysgotwr cymwys.

Bydd manylion pellach ar y broses ymgeisio yn cael eu cyhoeddi maes o law. Yn gyntaf, dylai pysgotwyr gofrestru ar-lein gyda Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Unwaith bod ceisiadau yn cael eu derbyn, gall pysgotwyr ymgeisio ar-lein drwy RPW.

Dywedodd y Gweinidog: “Rydym yn gwybod bod COVID-19 a’r stormydd yn gynharach eleni wedi achosi cryn dipyn o anhawster i’r sector pysgodfeydd.

“Mae pysgota yn rhan bwysig iawn o sector bwyd a diod Cymru, ac mae’n cynnal bywoliaeth a chymunedau ar draws ein harfordiroedd.

“Ond mae COVID-19 wedi effeithio’n arbennig o galed ar farchnadoedd allforio a mewnol, gan arwain at lawer yn y sector yn wynebu colli eu bywoliaeth, a chau eu busnesau yn barhaol.

“Bydd hwn yn gyfnod o ansicrwydd i lawer yn y sector, a dyna pam rydym am sicrhau y gallem eu cefnogi wrth iddynt wynebu costau nad oes modd eu hosgoi. Mae angen gweithredu nawr i warchod dyfodol busnesau pysgota Cymru a ffabrig cymdeithasol ein cymunedau pysgota sydd bellach, oherwydd yr effeithiau dybryd a dinistriol ar farchnadoedd, dan fygythiad.

“Bydd y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu yn helpu’r rheini sy’n gymwys i dalu eu costau yn ystod y cyfnod anodd hwn, a sicrhau bod gan Gymru sector pysgota cystadleuol ar ôl i’r argyfwng hwn ddod i ben.”