English icon English

Cyhoeddi Penodiad Aelod Newydd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Appointment of New Member to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales announced

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans, wedi cyhoeddi heddiw benodiad Dianne Bevan fel aelod o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 prif gyngor, gan gynnwys nifer y cynghorwyr a’r wardiau ym mhob ardal cyngor.

Cafodd Dianne ei geni yn Cumbria a threuliodd ei phlentyndod yng ngogledd Lloegr. Ar ôl symud i Gaerdydd yn 1985, mae Dianne wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yn byw yng Nghymru, mae’n briod i Gymro ac mae ganddi ddau o blant sydd bellach yn oedolion ac a fagwyd yng Nghymru.

Gweithiodd fel cyfreithiwr am 20 mlynedd ym maes llywodraeth leol, yn bennaf yn ne Cymru. Ar ôl deg mlynedd fel cyfarwyddwr yng Nghynghorau De Morgannwg a Chaerdydd, lle gweithiodd hefyd fel swyddog canlyniadau ar gyfer sawl etholiad ochr yn ochr â’i dyletswyddau fel uwch gyfreithiwr y Cyngor, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Glerc o’r hyn a elwid gynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daeth yn Brif Swyddog Gweithredu'r Cynulliad yn ddiweddarach. Yn y rôl hon gweithiodd gyda chynrychiolwyr etholedig o bob parti i gefnogi gwaith deddfwriaethol y Cynulliad a’i waith craffu ar Lywodraeth Cymru.

Ers ymddeol o weithio’n llawn amser yn 2012, mae Dianne wedi dangos ei diddordeb brwd mewn democratiaeth gynrychiadol a gwasanaethau lleol, drwy weithio gyda sefydliadau gan gynnwys Cynulliad Gogledd Iwerddon, The Hansard Society, Pwyllgor Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a Chymdeithas Tai Taf. Fel Ymgynghorydd Cyswllt â Global Partners Governance, sy’n helpu i ddatblygu democratiaethau ledled y byd, roedd Dianne yn rhan o brosiect a ddarparodd gyngor a hyfforddiant i Senedd a Llywodraethwyr Gwlad yr Iorddonen.

Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau teithio, cerdded, rygbi (gan gefnogi Caerdydd a Chymru), garddio ar randir y teulu a helpu i ofalu am ei dau ŵyr.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans: “Rwy’n falch bod Dianne yn ymuno â’r Comisiwn ac rwy’n siŵr y bydd hi’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w waith o gryfhau democratiaeth leol yng Nghymru.”

Mae’r penodiad hwn wedi’i wneud yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Bydd Dianne Bevan yn cael ei thalu ffi ddyddiol o £198 y diwrnod gydag ymrwymiad amser o 1-2 ddiwrnod y mis.