English icon English

Cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Welsh Government’s legislative programme announced

Heddiw, bydd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, yn cyhoeddi’r cyfreithiau newydd a fydd yn helpu i drawsnewid Cymru yn wlad gryfach, wyrddach a thecach.

Bydd rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn helpu i lywio Cymru yfory, wrth iddi ddod dros gyfnod y pandemig.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel o brysur o ran deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, â chynnydd mawr yn nifer y cyfreithiau a’r rheoliadau a wnaed ac a basiwyd yn y Senedd yn sgil pandemig y coronfeirws a Brexit, ynghyd a phasio Deddfau pwysig ym maes addysg a llywodraeth leol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’i rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol, gan gyflwyno pum Bil newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y Senedd hon, yn ogystal ag unrhyw reoliadau eraill y bydd eu hangen i reoli’r pandemig.

Dyma Filiau’r flwyddyn gyntaf, y dechreuir eu cyflwyno o’r hydref ymlaen:

  • Caiff system newydd ei sefydlu ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Bydd y rhaglen hirdymor i ddiwygio addysg yn gofalu na chaiff neb ei adael ar ôl yn sgil y pandemig.
  • Bydd Bil amaeth newydd yn creu system newydd o daliadau ffermio yng Nghymru. Bydd y system hon yn gwobrwyo ffermwyr am eu hymateb i argyfwng yr hinsawdd ac argyfyngau naturiol, yn ogystal â’u cefnogi i gynhyrchu bwyd Cymreig mewn ffordd gynaliadwy.
  • Bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn sicrhau hawliau gweithio teg i weithwyr. Bydd y Bil hefyd yn arwain at arferion mwy cymdeithasol gyfrifol o ran caffael cyhoeddus.
  • Bydd Bil i alluogi newidiadau i dreth ddatganoledig er mwyn sicrhau bod modd ymateb i ddigwyddiadau allai gael effaith ar faint o dreth sy’n cael ei gasglu.
  • Fe fydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno y Bil Cydgyfnerthu cyntaf, i wneud y ddeddf yng Nghymru yn fwy dealladwy. Fe fydd yn dod a llawer o hen ddeddfau cymhleth at ei gilydd ynglŷn a adeiladau sydd wedi eu rhestru ac amgylchedd hanesyddol, i greu un ddeddf ddwyieithog sy’n hawdd i’w ddeall.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno rheoliadau newydd – a elwir yn is-ddeddfwriaeth weithiau – i gefnogi ysgolion ac athrawon i gyflawni newidiadau radical i gwricwlwm ysgolion Cymru.

Caiff Bil ei gyflwyno i sicrhau mai 20mya yw’r terfyn cyflymdra safonol mewn ardaloedd preswyl ac yn gwahardd parcio ar y pafin lle bo modd. Bydd hyn yn ei gwneud yn fwy hwylus i bobl anabl a rhieni â phramiau a bygis ddefnyddio ein strydoedd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r Ddeddf Rhentu Cartrefi ar waith. Bydd hyn yn cynyddu hawliau pobl sy’n rhentu eu cartref, yn atal achosion o droi pobl allan er mwyn dial, yn sicrhau bod cartrefi yn rhai gwell i fyw ynddynt, ac yn ei gwneud yn ofynnol i denantiaid gael contractau ysgrifenedig.

Caiff deddfwriaeth hefyd ei chyflwyno i roi mwy o gefnogaeth i ddysgwyr hyd at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Gweledigaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) oedd y cynllun newydd, a bydd yn canolbwyntio’n fwy ar eu hanghenion unigol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Ein rhaglen uchelgeisiol yw’r cam cyntaf ar daith ddeddfwriaethol y Senedd hon.

“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn canolbwyntio ar Gymru gryfach, gwyrddach a thecach, ac mae’n amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy, sy’n gofyn am ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys diddymu’r defnydd o blastig sy’n cael ei ddefnyddio unwaith ac yna’n cael ei daflu fel sbwriel; cyflwyno ein Deddf Aer Glân a mynd i’r afael â diogelwch adeiladau i sicrhau na fydd sefyllfa fel un Grenfell byth yn digwydd eto.”

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:

“Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd Cymreig.

“Byddwn yn sicrhau bod y cyfreithiau newydd yn gweithio er budd pobl Cymru yn eu bywydau bob dydd - o ran eu hawliau yn y gwaith, eu gallu i rentu tŷ a sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb.”