Cyhoeddi rhestr lawn o lwybrau cyhoeddus a meysydd parcio sydd wedi cael eu cau oherwydd y Coronafeirws
Full list of public path and car park closures due to Coronavirus published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheolau newydd er mwyn achub bywydau ac atal y coronafeirws rhag lledaenu, gan gau llwybrau cyhoeddus a meysydd parcio.
Bwriedir i’r rheolau hyn ategu’r rheoliadau llym ar aros gartref ac atal sefyllfa debyg i’r un a welwyd y penwythnos diwethaf pan ymgasglodd niferoedd mawr o bobl ar draethau, parciau a mynyddoedd Cymru.
Mae’r rheoliadau newydd yn cau nifer o fannau prydferth poblogaidd a safleoedd i ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru, ac maent wedi rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad penodol
Mae’r tir a’r llwybrau poblogaidd sydd wedi’u cau yn cynnwys:
- Pen y Fan;
- Gwlad y Sgydau (Cwm Nedd);
- Llwybr Clawdd Offa;
- Mynydd Du (gan gynnwys Llyn y Fan Fawr, Llyn y Fan Fach, a Bannau Sir Gâr);
- Blorens ac;
- Yr Ysgyryd Fawr.
Nid yw’r mesurau yn atal pobl rhag mynd allan i’r awyr agored i ymarfer ond maent, yn hytrach, yn eu hannog i wneud hynny yn agos i’w cartrefi.
Mae’r rheolau ar aros gartref yn caniatáu i bobl fynd allan unwaith y dydd yn agos i’w cartrefi er mwyn ymarfer – ond mewn grwpiau nad ydynt yn cynnwys mwy na dau berson. Rhaid i bobl beidio â theithio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol, dylent gadw 2m draw oddi wrth bobl eraill, a dilyn y canllawiau llym ar olchi dwylo a hylendid.
Rhaid i bobl sydd â symptomau’r coronafeirws − tymheredd uchel neu beswch newydd a chyson − aros gartref. Rhaid i’r bobl sy’n byw gyda nhw aros gartref am 14 diwrnod hefyd.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Yng Nghymru, rydyn ni’n lwcus iawn o’r tirweddau naturiol prydferth sydd gennym ar hyd a lled y wlad.
“Nid atal pobl rhag ymarfer yn yr awyr agored y tu allan i’w cartrefi, fel sydd wedi’i nodi mewn deddfwriaeth erbyn hyn, yw’r bwriad wrth gau’r safleoedd hyn.
“Rydyn ni wedi gweithredu i gau llwybrau troed a thir penodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel a lleihau’r pwysau ar ein GIG. Mae’n neges yn un syml. Arhoswch gartref er mwyn achub bywydau.”
Dywedodd Julian Atkins, Pennaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
“Mae’r cyfyngiadau ar symud sydd mewn grym yn angenrheidiol i rwystro’r coronafeirws rhag lledaenu ac mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gwrando ac yn ufuddhau i’r cyfarwyddiadau sydd wedi’u rhoi. Er ein bod ni i gyd yn mwynhau mynd i’r wlad, mae’r lleoedd sy’n denu pobl i grynhoi neu i ddod i gysylltiad â’i gilydd bellach yn gallu peryglu iechyd ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu bywydau.”
Wnaethon ni ddim gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach ond mae’r cyhoeddiadau’n bwysig os ydym am wneud ein rhan i arafu lledaeniad y feirws a rhaid ufuddhau iddyn nhw. Bydd y Parc Cenedlaethol yma o hyd ar ôl codi’r cyfyngiadau ond am y tro, mae rhaid cau rhannau ohono. Mae llawer o bobl oedrannus yn byw yn y Parc Cenedlaethol ac mae cael at ysbytai a gwasanaethau’r GIG yn gallu bod yn anoddach i rai. Felly helpwch bawb i gadw’n ddiogel”.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i gadw’r cyhoedd a’n staff mor ddiogel â phosibl. Er ein bod wedi cau’r cyfleusterau i ymwelwyr ar ein safleoedd, mae’r hawliau tramwy a’r tir mynediad agored dal i fod ar agor ar y foment ar gyfer y bobl sy’n byw gerllaw. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa.
“Cyngor CNC yw gofalwch amdanoch chi’ch hunan ac eraill trwy ddilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth ac Iechyd Choeddus Cymru a pheidio â theithio’n ddiangen – felly ewch am dro yn eich bro; peidiwch â mynd yn eich car i un o’r coetiroedd rydym yn gyfrifol amdanyn nhw”.
Mae rhestr o’r llwybrau cyhoeddus a’r meysydd parcio mewn rhai o fannau prydferth mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar wefannau Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru.
DIWEDD