English icon English

Cyhoeddi rhestr lawn o lwybrau cyhoeddus a meysydd parcio sydd wedi cael eu cau oherwydd y Coronafeirws

Full list of public path and car park closures due to Coronavirus published

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheolau newydd er mwyn achub bywydau ac atal y coronafeirws rhag lledaenu, gan gau llwybrau cyhoeddus a meysydd parcio.

Bwriedir i’r rheolau hyn ategu’r rheoliadau llym ar aros gartref ac atal sefyllfa debyg i’r un a welwyd y penwythnos diwethaf pan ymgasglodd niferoedd mawr o bobl ar draethau, parciau a mynyddoedd Cymru. 

Mae’r rheoliadau newydd yn cau nifer o fannau prydferth poblogaidd a safleoedd i ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru, ac maent wedi rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad penodol.    

Mae’r tir a’r llwybrau poblogaidd sydd wedi’u cau yn cynnwys:

  • Castell Caeriw;
  • Castell Henllys;
  • Oriel y Parc;
  • Rhannau o Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Nid yw’r mesurau newydd hyn yn atal pobl rhag mynd allan i’r awyr agored i ymarfer ond maent, yn hytrach, yn eu hannog i wneud hynny yn agos i’w cartrefi.

Mae’r rheolau ar aros gartref yn caniatáu i bobl fynd allan unwaith y dydd yn agos i’w cartrefi er mwyn ymarfer – ond mewn grwpiau nad ydynt yn cynnwys mwy na dau berson. Rhaid i bobl beidio â theithio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol, dylent gadw 2m draw oddi wrth bobl eraill, a dilyn y canllawiau llym ar olchi dwylo a hylendid.

Rhaid i bobl sydd â symptomau’r coronafeirws − tymheredd uchel neu beswch newydd a chyson − aros gartref. Rhaid i’r bobl sy’n byw gyda nhw aros gartref am 14 diwrnod hefyd.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Yng Nghymru, rydyn ni’n lwcus iawn o’r tirweddau naturiol prydferth sydd gennym ar hyd a lled y wlad.

“Nid atal pobl rhag ymarfer yn yr awyr agored y tu allan i’w cartrefi, fel sydd wedi’i nodi mewn deddfwriaeth erbyn hyn, yw’r bwriad wrth gau’r safleoedd hyn.

“Rydyn ni wedi gweithredu i gau llwybrau troed a thir penodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel a lleihau’r pwysau ar ein GIG. Mae’n neges yn un syml. Arhoswch gartref er mwyn achub bywydau.”

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydyn ni’n sylweddoli ei bod yn debygol y bydd ar bobl angen mynd i fannau agored ar yr adeg anodd hon ond rydyn ni’n erfyn ar bobl i ddilyn cyngor y Llywodraeth i osgoi teithio a dim ond mynd allan i’r awyr agored yn agos i garreg y drws. 

“Byddwn ni fel Awdurdod yn gwneud popeth o fewn ein gallu dros yr wythnosau nesaf i ddarparu rhith-fynediad drwy’n gwefan, drwy sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol, podlediadau a fideo er mwyn i bobl fedru mwynhau natur a phrofi’n Parc Cenedlaethol ar-lein. Ewch i www.pembrokeshirecoast.wales i gael rhagor o wybodaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gadw’r cyhoedd, a’n staff, mor ddiogel â phosibl. Er ein bod wedi cau’r holl seilwaith i ymwelwyr ar ein safleoedd, mae’n hawliau tramwy a’n tir mynediad agored yn parhau’n agored ar hyn o bryd ar gyfer y bobl hynny sy’n byw gerllaw. Byddwn yn mynd ati’n gyson i adolygu’r sefyllfa honno.”

“Cyngor CNC yw gofalu amdanoch eich hun ac eraill drwy ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth, gan osgoi teithio’n ddiangen − felly, os ydych chi’n mynd am dro, gwnewch hynny yn eich bro; peidiwch defnyddio’r car i deithio i un o'r coedwigoedd rydyn ni’n eu rheoli.”

Mae rhestr o’r llwybrau cyhoeddus a’r meysydd parcio sydd wedi cau mewn rhai o fannau prydferth mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar wefannau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru.   

DIWEDD