Cyhoeddi'r opsiwn a ffefrir ar gyfer ailosod Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494
Preferred Option for A494 River Dee Bridge replacement announced
Mae'r cynlluniau ar gyfer ailosod Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494, rhan allweddol o seilwaith ffyrdd gogledd Cymru, wedi cymryd cam arall ymlaen wrth i'r opsiwn a ffefrir gael ei gyhoeddi.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn edrych ar bum opsiwn posibl. Cadarnhaodd hyn bod cefnogaeth gadarn ar gyfer Opsiwn E, yr opsiwn a berfformiodd orau, ac mae gwaith pellach hefyd wedi'i wneud i fynd i'r afael â rhai o'r sylwadau a wnaed.
Felly, Opsiwn E yw'r opsiwn a ffefrir gan mai dyma'r opsiwn mwyaf fforddiadwy, mae ganddo ôl troed amgylcheddol is a dyma'r un mwyaf ymarferol i'w gyflawni. Bydd yn darparu strwythur sengl newydd ynghyd â darpariaeth lawn ar gyfer teithio llesol ar y bont newydd.
Byddai gwaith ar y rheilffordd yn cael ei leihau, gydag ardal ymyl y briffordd bresennol drwy'r strwythur yn cael ei ailffurfweddu i hwyluso hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.
Mae'r dyluniad cychwynnol, sy'n rhoi ystyriaeth fanylach i'r problemau amgylcheddol a pheirianyddol, yn parhau i gael ei ddatblygu, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad. Y cam nesaf fydd cyhoeddi Gorchmynion drafft a Datganiad Amgylcheddol a fydd yn rhoi cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau, a chefnogi neu wrthwynebu'r cynigion. Bydd hyn yn cael ei drefnu ar gyfer tymor yr Hydref 2025, a bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn lle y bydd swyddogion a thîm y prosiect ar gael i ateb unrhyw ymholiadau.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ddiwedd 2026 i ddechrau 2027.
Mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio ar y bont bresennol yn cynyddu. Mae'r gwaith archwilio a monitro hyd yn hyn wedi dod i'r casgliad bod amlder atgyweiriadau a'r risg o atgyweirio ac ymyrraeth sylweddol a fyddai'n golygu cau'r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r opsiwn a ffefrir a nodwyd yn 2019 wedi'i adolygu a chynigir opsiynau cynllun newydd sy'n sicrhau gwell cysondeb â'r polisïau cyfredol gan wella gwerth am arian a gwytnwch ar hyd y coridor strategol bwysig hwn. Blaenoriaeth arall yw lleihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu, cyn belled ag y bo modd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac rydym yn symud ymlaen gyda'r cynlluniau ar gyfer ailosod Pont Dyfrdwy ar yr A494. Rwy'n falch heddiw o allu cyhoeddi'r opsiwn a ffefrir, sef yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol ac sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Gall y cynlluniau nawr symud ymlaen i'r cam nesaf gyda'r bwriad o gyhoeddi'r gorchmynion drafft yn ddiweddarach eleni.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar ddyfodol y cyswllt ffordd hanfodol hwn. Ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer gwella teithio ar fysiau a threnau yn y rhanbarth, bydd y bont newydd yn cryfhau'r seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ymhellach."