Cylild newydd i gefnogi ffermwyr llaeth yn ystod Covid19
New funding to support Welsh dairy farmers through Covid19
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi cyhoeddi cyllid heddiw [Dydd Sadwrn 9 Mai] ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf gan yr amodau eithriadol diweddar yn y farchnad o ganlyniad i Covid19.
Roedd y sector llaeth wedi teimlo effaith y pandemig byd-eang ar unwaith, o ganlyniad i gau y sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch.
I gefnogi’r sector yn ystod y cyfnodau heriol hwn, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedi hynny ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi ei golli. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.
Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Mae’n dilyn cyfres o gyhoeddiadau wedi’u hanelu at gefnogi’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys:
- Ymgyrch newydd ar gyfer cwsmeriaid, o dan arweiniad AHDB, i gynyddu y galw am laeth gan ddefnyddwyr 3%;
- Llacio y cyfreithiau cystadlu dros dro i ganiatâu rhagor o gydweithio fel y gall y sector, gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr llaeth, gydweithio’n agosach i ddatrys y gwahaniaeth rhwng y cyflenwad a’r galw; ac
- Agor ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd yr UE a’r cymorth preifat ar gyfer storio llaeth sgim, menyn a chaws.
Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd y Gweinidog: “Mae cau y sector gwasanaethau bwyd wedi cael effaith sylweddol ar unwaith ar ein sector llaeth a phrisiau y farchnad.
“Bydd y mesurau sydd wedi’u cyflwyno hyd yma yn help i roi rhywfaint o sefydlogrwydd i’r sector llaeth, ond rwy’n cydnabod bod angen cefnogi’r ffermydd hynny sydd wedi dioddef waethaf mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
“Dwi felly yn falch o gadarnhau y bydd ffermwyr llaeth yng Nghymru yn gymwys am gymorth i helpu iddynt addasu i’r amodau eithriadol yn y farchnad, ac i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb iddo gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd. Bydd rhagor o fanylion y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan ond roeddwn am ymrwymo heddiw i gefnogi’r grŵp craidd yma o ffermwyr llaeth gyda thaliad i’w osod yn erbyn rhai o’r effeithiau ariannol y maent wedi’u gweld.
“Byddwn yn parhau i weithio’n galed â’r sector i helpu iddynt fynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Trwy gydweithio gallwn sicrhau dyfodol optimistaidd ar gyfer y sector llaeth a’i chadwyn gyflenwi yng Nghymru.”