English icon English
white-smartphone-1851415-2

Cyllid i ddarparu llinell gymorth cyfrwng Cymraeg i rieni

Funding to support Welsh-language advice line for parents

Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i elusen sy’n cynnig cyngor ar bob agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol er mwyn ymestyn gwasanaeth y llinell gymorth i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn digwydd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu rhieni i gadw’n ddiogel a chadw’n bositif yn ystod pandemig COVID-19.

Ar hyn o bryd, mae elusen Family Lives yn darparu cymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol ledled Cymru a Lloegr.

Mae llinell gymorth yr elusen wedi bod yn darparu cymorth emosiynol ers dros 40 mlynedd, a’r llynedd derbyniwyd tua 800 o alwadau gan deuluoedd yng Nghymru. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i benodi cynghorydd sy’n medru’r Gymraeg i fod yn rhan o’r tîm sy’n darparu’r llinell gymorth.

Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn ategu ymgyrch rianta ‘Cadw’n Ddiogel, Cadw’n Bositif’ Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei chynnal mewn ymateb i’r pandemig presennol.

Mae Family Lives hefyd yn bwriadu recriwtio cynghorwyr gwirfoddol sy’n ddwyieithog, gan gynnwys cynnig hyfforddiant ar bolisi’r Gymraeg i’w staff a’u gwirfoddolwyr, er mwyn sicrhau gwasanaeth pwrpasol i deuluoedd yng Nghymru.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae effaith cyfyngiadau Covid-19 wedi bod yn anodd iawn i rai teuluoedd; gyda rhieni’n wynebu heriau fel rheoli ymddygiad eu plant, rhannu cyfrifoldebau rhianta yn y cyfnod clo, a phryderu am eu lles a materion ariannol.

“Mae gwasanaeth Family Lives wedi bod yn darparu cyngor a gwybodaeth ers tro yng Nghymru. Ac mae’r cyllid hwn yn gam pwysig i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael ac yn hygyrch i rieni sy’n teimlo’n fwy cysurus yn siarad Cymraeg.”

“Mae Family Lives hefyd yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg ymhellach drwy recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol sy’n siarad Cymraeg. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n gallu helpu drwy wirfoddoli i gysylltu â nhw.”

O ganlyniad i’r cyllid, mae Leah wedi ymuno â Family Lives i ateb galwadau drwy gyfrwng y Gymraeg. A dywedodd:

“Mae’n fraint fawr ifi gael bod yn rhan allweddol o’r rôl unigryw hon i helpu teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn.

“Rwy’n meddwl bod y gwasanaeth hwn yn ffordd wych o ddangos bod Family Lives yma i’ch helpu chi yn y ffordd orau y gallwn ni, drwy gynnig cyfle cyfartal a chefnogi teuluoedd drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf.

“Rwy’n teimlo’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at weld y galw am y gwasanaeth Cymraeg ychwanegol hwn wrth ddarparu cymorth emosiynol, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar rianta a bywyd teuluol.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg, Eluned Morgan:

"Mae'r llinell gymorth hon wedi helpu cymaint o deuluoedd dros y 40 mlynedd diwethaf, ond bydd y newyddion hyn y byddant yn darparu eu gwasanaethau rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg yn awr yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o deuluoedd yn gallu cael y gefnogaeth emosiynol y maent yn chwilio amdani.”

Dywedodd Pamela Park, Dirprwy Brif Weithredwr Family Lives:

“Mae Family Lives o’r farn y dylai pob teulu allu gael y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa argyfyngus. Ac mae hynny’n bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig presennol.

“Rydyn ni’n hynod o falch bod ein llinell gymorth yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Nodiadau i olygyddion

Mae'r cymorth ychwanegol yn cael ei dreialu am gyfnod o chwe mis i ganiatáu gwerthuso effeithiolrwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Ar gyfer cymorth rhianta: llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cadw-n-bositif a www.facebook.com/parentsinwales

Taflenni Family Lives ar gael i'w lawrlwytho isod.