English icon English
Food bank-2

Cyllid newydd ar gyfer cyfleusterau a fydd yn hybu lles cymunedol

New funding for facilities will boost community wellbeing

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, gyllid o £900k gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau yn y gymuned drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Mae’r rhaglen hon, sy’n ariannu prosiectau o hyd at uchafswm o £250,000, neu hyd at £25,000 ar gyfer grantiau llai, yn helpu cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n helaeth i wella eu cynaliadwyedd ariannol a/ neu amgylcheddol, gan roi cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn Ne-orllewin Cymru yn cynnwys:

  • Awel Aman Tawe, Abertawe - £250,000 tuag at gost cyfanswm o £750,000 i Ddatblygu Hwb Di-garbon (Hwb y Gors) a fydd yn hwyluso gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd drwy addysg, datblygu sgiliau, mentrau cymdeithasol, cymorth ymarferol a gweithdai cymunedol.
  • Ray Ceredigion, Ceredigion - £25,000 tuag at gost cyfanswm o £28,860 i greu gofod mynediad mewnol rhwng ystafelloedd ar y llawr daear.
  • Neuadd Gymunedol Llanmorlais, Abertawe - £15,500 tuag at y gost o £30,000 i osod to newydd a system annerch y cyhoedd (PA) newydd.

Dywedodd Jane Hutt:

“Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rai heriau penodol mewn cymunedau, megis iechyd meddwl a lles cymdeithasol. Mae rhannu ymrwymiad yn atgyfnerthu cymunedau gofalgar, bywiog, lle y mae dinasyddion yn cael eu tynnu ynghyd drwy gysylltiadau agos sy’n cael eu meithrin drwy gydweithredu a gwaith tîm. Yn sgil hynny mae llai o anghydraddoldeb ac mae’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein plith yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

“Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i rai prosiectau lleol ffantastig esblygu a thyfu i ddiwallu anghenion penodol eu hardaloedd.

“Mae cynnig grantiau tebyg i’r rhain i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau sydd eu hangen yn fawr, sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau pobl ledled Cymru. Dw i eisiau ystyried a dathlu’r cyfraniad enfawr a wneir gan sefydliadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed yn eu cymunedau i roi help a chymorth hanfodol lle y mae ei angen fwyaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

“Dw i’n falch i allu darparu cyllid ar gyfer y sector cymunedol ledled Cymru.

“Er gwaetha’r heriau digynsail rydym wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig, mae ysbryd cymunedol a gallu pobl Cymru i oresgyn problemau wedi disgleirio. Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd drwy roi cymorth i brosiectau lleol.”

Dywedodd Gill Byrne, cydlynydd prosiect Ray Ceredigion:

“Bydd y cyllid hwn yn help anferthol i ni, gan ein galluogi i agor rhan o’r adeilad, a fydd yn gwneud cadw pellter cymdeithasol gymaint yn haws.

“Rydym yn rhedeg amrywiaeth o grwpiau ar gyfer pobl leol, gan gynnwys cefnogi pobl â dementia a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc. Gallwn bellach wneud i’r gofod weithio llawer yn well, a pharhau i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn y gymuned leol gyda gweithgareddau sy’n cadw pellter cymdeithasol.

“Bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned.”

Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar agor drwy gydol y flwyddyn a gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar llyw.cymru.