Cyllid newydd ar gyfer cyfleusterau a fydd yn hybu lles cymunedol
New funding for facilities will boost community wellbeing
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, gyllid o £900k gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau yn y gymuned drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
Mae’r rhaglen hon, sy’n ariannu prosiectau o hyd at uchafswm o £250,000, neu hyd at £25,000 ar gyfer grantiau llai, yn helpu cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n helaeth i wella eu cynaliadwyedd ariannol a/ neu amgylcheddol, gan roi cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn cynnwys:
- Awel Aman Tawe, Abertawe - £250,000 tuag at gost cyfanswm o £750,000 i Ddatblygu Hwb Di-garbon (Hwb y Gors) a fydd yn hwyluso gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd drwy addysg, datblygu sgiliau, mentrau cymdeithasol, cymorth ymarferol a gweithdai cymunedol.
- Ray Ceredigion, Ceredigion - £25,000 tuag at gost cyfanswm o £28,860 i greu gofod mynediad mewnol rhwng ystafelloedd ar y llawr daear.
- Neuadd Gymunedol Llanmorlais, Abertawe - £15,500 tuag at y gost o £30,000 i osod to newydd a system annerch y cyhoedd (PA) newydd.
- Maindee Unlimited, Casnewydd - £204,177 tuag at y gost cyfanswm o £230,000 i greu toiledau cyhoeddus, gofod cymunedol gyda chyfleusterau cegin a thirlunio’r gofod gwyrdd yn yr awyr agored.
- Canolfan Ieuenctid Cwmbrân, Torfaen - £148,556 tuag at y gost o £193,556 i greu canolfan hyfforddiant gyda chegin, toiledau a gardd gymunedol yn ogystal â mynedfa newydd gyda lifft a gosod arwynebedd newydd yn yr iard ar gyfer mynediad i bobl anabl.
- Theatr Beaufort, Blaenau Gwent - £10,000 tuag at y gost o £12,000 i uwchraddio ei system foeler.
- Smart Money Cymru, Caerffili - £7,000 tuag at y gost cyfanswm o £10,700 i uwchraddio ei portakabin presennol.
- Clwb Pêl-droed ac Athletau Iau Llanyrafon, Torfaen - £25,000 tuag at y gost o £41,056 i uwchraddio ei ystafelloedd newydd a maes chwarae i chwaraewyr hŷn.
- Neuadd Goffa Llanfairpwll, Ynys Môn - £200,000 tuag at y gost o £302,400 i uwchraddio, ymestyn ac adnewyddu’r neuadd goffa at ddefnydd cymunedol ehangach.
- Gwnaeth Newvol (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych), Sir Ddinbych gais am £25,000 tuag at y gost o £60,000 i ailwampio ei adeilad y tu mewn a’r tu allan.
- Yn wreiddiol dyfarnwyd £200,000 i Gapel Bethesda, Arberth tuag at y gost o £400,000 i ymestyn adeilad yr eglwys i wella mynediad i bobl anabl, gwella cyfleusterau cegin a thoiledau a gwella’r fynedfa i gynyddu defnydd cymunedol. Yn sgil gwaith ychwanegol oedd ei angen bu cynnydd yng nghyfanswm y gost o £40,000, a chynnydd cyfatebol o £32,000 mewn cyllid grant.
Dywedodd Jane Hutt:
“Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rai heriau penodol mewn cymunedau, megis iechyd meddwl a lles cymdeithasol. Mae rhannu ymrwymiad yn atgyfnerthu cymunedau gofalgar, bywiog, lle y mae dinasyddion yn cael eu tynnu ynghyd drwy gysylltiadau agos sy’n cael eu meithrin drwy gydweithredu a gwaith tîm. Yn sgil hynny mae llai o anghydraddoldeb ac mae’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein plith yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
“Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i rai prosiectau lleol ffantastig esblygu a thyfu i ddiwallu anghenion penodol eu hardaloedd.
“Mae cynnig grantiau tebyg i’r rhain i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau sydd eu hangen yn fawr, sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau pobl ledled Cymru. Dw i eisiau ystyried a dathlu’r cyfraniad enfawr a wneir gan sefydliadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed yn eu cymunedau i roi help a chymorth hanfodol lle y mae ei angen fwyaf.”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:
“Dw i’n falch i allu darparu cyllid ar gyfer y sector cymunedol ledled Cymru.
“Er gwaetha’r heriau digynsail rydym wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig, mae ysbryd cymunedol a gallu pobl Cymru i oresgyn problemau wedi disgleirio. Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd drwy roi cymorth i brosiectau lleol.”
Dywedodd Gill Byrne, cydlynydd prosiect Ray Ceredigion:
“Bydd y cyllid hwn yn help anferthol i ni, gan ein galluogi i agor rhan o’r adeilad, a fydd yn gwneud cadw pellter cymdeithasol gymaint yn haws.
“Rydym yn rhedeg amrywiaeth o grwpiau ar gyfer pobl leol, gan gynnwys cefnogi pobl â dementia a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc. Gallwn bellach wneud i’r gofod weithio llawer yn well, a pharhau i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn y gymuned leol gyda gweithgareddau sy’n cadw pellter cymdeithasol.
“Bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned.”
Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar agor drwy gydol y flwyddyn a gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar llyw.cymru.