English icon English
EU disability-2

Cyllid newydd i gefnogi pobl anabl ar ôl Brexit

New funding to support disabled people after Brexit

Mae elusen yng Nghymru wedi cael cyllid newydd i gefnogi pobl anabl a'u paratoi ar gyfer yr effaith y gallai ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) o'r Undeb Ewropeaidd (UE) ei chael ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae disgwyl i'r DU ymadael â'r UE ddiwedd mis Ionawr a bydd yn dechrau ar gyfnod pontio wedi hynny a fydd yn parhau tan fis Rhagfyr 2020.

Er bod y rhan fwyaf o reolau'r UE yn mynd i barhau yn ystod y cyfnod pontio, mae Llywodraeth Cymru yn dal i gefnogi pobl, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n gysylltiedig â'r ymadawiad.

Bydd y prosiect, a fydd yn cael ei redeg gan y sefydliad ambarél, Anabledd Cymru, yn:

  • Cynnig cyfleoedd i gymryd rhan a fydd wedi'u teilwra ar gyfer anghenion pobl anabl
  • Paratoi gwybodaeth a thynnu sylw at ffynonellau eraill o wybodaeth mewn fformatau hygyrch
  • Cynnal trafodaethau ynglŷn â'r goblygiadau posibl o safbwynt meddyginiaethau, gwasanaethau a budd-daliadau yn y tymor hwy.

Bydd amryw o ddigwyddiadau rhanbarthol wedi'u targedu at sefydliadau anabledd yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru a bydd uwchgynhadledd genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd y mis nesaf.

Bydd y prosiect £72,000 yn rhedeg mewn partneriaeth â Fforwm Cymdeithas Sifil Brexit a bydd hefyd yn arwain at sefydlu rhwydwaith polisi anabledd rhithwir. 

Soniodd Anita Davies, 47 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, am ei phryderon pan roddwyd y gorau i gynhyrchu dau fath o ddiferion llygaid meddyginiaethol yr oedd yn eu defnyddio i osgoi colli ei golwg.

Dywedodd Anita:

“Dw i’n poeni sut effaith y bydd hyn ei chael ar hawliau pobl anabl. Ar hyn o bryd, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol, y Ddeddf Cydraddoldeb ac amrywiol ddeddfau eraill sy’n berthnasol i Gymru, a rhai ohonyn nhw’n seiliedig ar gyfraith Ewrop, yn diogelu ein hawliau ni.

“Yn ystod y broses hon, rhaid gwneud ymdrech i ofalu ar ôl anghenion pobl anabl a’r rheini sydd â chyflyrau iechyd. Dylai hyn fod yn flaengar yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud. Mae angen diogelu ein hawliau, rhaid inni gael mynediad at wasanaethau ac offer i’n helpu gyda’n bywydau bob dydd.”

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, sy’n gyfrifol am gydraddoldeb: 

“Ychydig dros bythefnos sydd i fynd cyn i’r DU ymadael â’r UE. Yn anffodus, rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n debygol y gallai hyn gael effaith anghymesur ar bobl anabl. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gan bobl anabl ddigon o gymorth a gwybodaeth i baratoi ar gyfer unrhyw effeithiau negyddol a allai gael canlyniadau ar eu bywydau o ddydd i ddydd.   

“Bydd y prosiect hwn yn cael ei lywio gan bobl anabl er mwyn sicrhau bod y cymorth a’r adnoddau yn cael eu cynllunio’n briodol, fel yn achos deunydd Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft. Bydd mewnbwn y bobl anabl yn nodwedd gwbl allweddol o’r prosiect.”

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Drwy ein prosiect, bydd modd i bobl godi pryderon a bydd penderfynwyr allweddol yn gallu delio â nhw. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth ddiweddar yn cael ei darparu, a fydd yn hygyrch i bawb. Prinder gwybodaeth o’r fath sydd fel arfer yn codi bwganod ac yn achosi pryder.”

Mae tudalen benodol ar y mater hwn i’w gweld ar wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru. Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnig darlun cyffredinol o faterion ehangach yn ymwneud â Brexit sy’n effeithio ar bobl anabl: llyw.cymru/paratoi-cymru