Cyllid ychwanegol i helpu awdurdodau lleol
Additional funding to support local authorities
Mae pecyn £120m o gyllid ychwanegol wedi’i gadarnhau heddiw i gefnogi awdurdodau lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol Thai, Jayne Bryant, y bydd y pecyn sylweddol ar gyfer 2024-25 yn helpu i gynnal meysydd hanfodol gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol a thai, gan sicrhau bod cynghorau'n dal i allu darparu gwasanaethau hanfodol yn eu cymunedau.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid hollbwysig i ni - maen nhw'n darparu'r gwasanaethau rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw bob dydd ac rydyn ni'n cydnabod yr heriau a'r pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu.
"Mae'r arian ychwanegol hwn yn cydnabod hynny ac yn ysgafnhau ychydig ar y pwysau hwnnw ac yn eu helpu ag ystod o wasanaethau tai, addysg a gofal cymdeithasol.
"Rydym wedi ymrwymo i gryfhau llywodraethau lleol, eu helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chyflawni dros bobl Cymru."
Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'r cyllid newydd yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC: “Mae’r cyllid untro ychwanegol hwn yn hwb i’w groesawu i gynghorau ledled Cymru, ac mae’n adlewyrchu’r rôl hollbwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt.
“Mae ein hysgolion, ein timau gofal cymdeithasol, a’n gwasanaethau tai yn wynebu pwysau digynsail, felly mae’n galonogol gweld y gefnogaeth hon ar gyfer meysydd hanfodol.
“Mae’r gefnogaeth i ysgolion yn arbennig o bwysig, gan sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn addysg a thu hwnt. Bydd y cyllid hwn yn helpu cynghorau i barhau â’u gwaith hanfodol, gan gyflawni dros bobl Cymru er gwaethaf yr heriau ariannol sy’n ein hwynebu.”
Cafodd peth o'r arian yn y pecyn hwn ar gyfer llywodraeth leol ei gynnwys yn y £157m ar gyfer blaenoriaethau'r Prif Weinidog, a gyhoeddwyd ddechrau'r wythnos.
Bydd awdurdodau lleol yn derbyn peth arian ychwanegol hefyd ar gyfer gofal cartref yn 2024-25 yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw'r tâl uchaf o £100 yr wythnos am ofal yn y cartref.
Mae'r arian ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn cynnwys:
- £52.3m i helpu gyda phwysau cyflogau llywodraeth leol ar gyfer 2024-25
- £10m i'w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol
- Cymorth ar gyfer gofal cartref – i gadw'r tâl gofal uchaf o £100 yr wythnos
- £10m ar gyfer gwasanaethau ailalluogi i gynyddu gofal yn y gymuned a hwyluso rhyddhau cleifion ysbytai
- £30m i gefnogi ysgolion
- £18.2m ar gyfer y codiad cyflog i athrawon yn 2024-25
DIWEDD